Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q1458070 |
B + mesur |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Rhigwm [[cofair|cofeiriol]] i gofio hydau'r [[mis]]oedd yw '''''Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill''''': |
Rhigwm [[cofair|cofeiriol]] i gofio hydau'r [[mis]]oedd yw '''''Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill,''''' ar fesur y [[tri-thrawiad]]: |
||
:Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill |
:Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:51, 27 Ionawr 2020
Rhigwm cofeiriol i gofio hydau'r misoedd yw Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill, ar fesur y tri-thrawiad:
- Tri deg sy'm mis Ebrill a Medi heb weddill
- A Thachwedd er cynnull ei bennill i ben;
- Mehefin fis hyfryd 'run gyfrif mae'n gymryd,
- I eraill un arall a rifen.
- Ond Chwefror fis chwerw dau ddeg ac wyth hoyw
- A gymer i lanw 'rwy'n bwrw er budd;
- Ond blwyddyn naid hynod mynn chwaneg un diwrnod,
- Yn barod i'w bennod ef beunydd.[1]
Ceir penillion tebyg, gan gynnwys:
- Ebrill, Mehefin, Medi, Tachwedd,
- Deg ar hugain yw eu diwedd;
- Yn y gweddill un yn rhagor
- Ac wyth ar hugain ym mis Chwefror;
- Ond naw ar hugain sydd yn rhaid
- Pan ddigwyddo blwyddyn naid.[2]
Cyfansoddodd y Parchedig O. M. Lloyd y pennill hwn:
- Deg dydd ar hugain yw rhifedi
- Ebrill, Mehefin, Tachwedd a Medi.
- Mae i'r gweddill ddydd yn rhagor,
- Ar wahân i'r mis bach Chwefror,
- Rhoi wyth ar hugain i hwnnw sydd raid,
- Ond naw ar hugain bob blwyddyn naid.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1472 [thirty].
- ↑ Geiriadur yr Academi, t. 1723 [thirty].
- ↑ 29 Chwefror. y wefan gwasanaethau. Adalwyd ar 21 Mehefin 2014.