Amrywioldeb yr hinsawdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Newidiadau Egni Solar: cyfieithu pwt o'r fersiwn saesneg
BDim crynodeb golygu
Llinell 26: Llinell 26:
== Achosion Dynol Newid Hinsawdd ==
== Achosion Dynol Newid Hinsawdd ==
{{prif|Cynhesu byd eang}}
{{prif|Cynhesu byd eang}}
=== Newid yn llysdyfiant ===
=== Newid llystyfiant ===
Mae gan goed gwerth economaidd da, yn enwedig mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig. Mae hyn yn eu rhoi nhw dan bygythiad, ac maent yn diflannu'n gyflym.
Mae gan goed gwerth economaidd da, yn enwedig mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig. Mae hyn yn eu rhoi nhw dan bygythiad, ac maent yn diflannu'n gyflym.
[[Delwedd:Amazon Manaus forest.jpg|300px|dde|bawd|Mae yna lawer o [[datgoedwigo|ddadgoedwigo]] yn digwydd yn y [[Coedwig-law Amazonas|Goedwig-law Amazonas]]]]
[[Delwedd:Amazon Manaus forest.jpg|300px|bawd|Mae yna lawer o [[datgoedwigo|ddatgoedwigo]] yn digwydd yn y [[Coedwig-law Amazonas|Goedwig-law Amazonas]]]]
Mae coed yn hanfodol, wrth gwrs, gan eu bod yn gymorth i gadw lefelau nwyon (''carbon deuocsid ag ocsigen'') yn gyson yn yr [[atmosffer y ddaear|atmosffer]]. Mae coed yn ymddwyn fel sinc [[Carbon deuocsid]] ac maent yn rhyddhau [[ocsigen]] fel sgil gynnyrch. Wrth i ni dorri'r coed yma i lawr rydym yn lleihau'r nifer o adweithiau [[ffotosynthesis]] sy'n digwydd ar y ddaear ac felly mae'r tymheredd yn cynyddu.
Mae coed yn hanfodol, wrth gwrs, gan eu bod yn gymorth i gadw lefelau nwyon (''carbon deuocsid ag ocsigen'') yn gyson yn yr [[atmosffer y ddaear|atmosffer]]. Mae coed yn ymddwyn fel sinc [[Carbon deuocsid]] ac maent yn rhyddhau [[ocsigen]] fel sgil gynnyrch. Wrth i ni dorri'r coed yma i lawr rydym yn lleihau'r nifer o adweithiau [[ffotosynthesis]] sy'n digwydd ar y ddaear ac felly mae'r tymheredd yn cynyddu.


Llinell 34: Llinell 34:


=== Llygredd ===
=== Llygredd ===
Gelwir yr effaith mae llygredd (CO<sub>2</sub> yn bennaf) yn cael ar ein planed yn [[Effaith tŷ gwydr]] (''Saesneg:greenhouse effect''). Wrth i ni allyrru symiau enfawr o lygredd i'r [[atmosffer y ddaear|atmosffer]] mae'n creu blanced sy'n ynysu ein planed. Wrth i ni wneud hyn mae tymheredd cymedrol y ddaear yn cynyddu yn raddol iawn.
Gelwir yr effaith mae llygredd (CO<sub>2</sub> yn bennaf) yn cael ar ein planed yn [[Effaith tŷ gwydr]]. Wrth i ni allyrru symiau enfawr o lygredd i'r [[atmosffer y ddaear|atmosffer]] mae'n creu blanced sy'n ynysu ein planed. Wrth i ni wneud hyn mae tymheredd cymedrol y ddaear yn cynyddu yn raddol iawn.


==Effeithiau lleol==
==Effeithiau lleol==

Fersiwn yn ôl 18:48, 27 Ionawr 2020

Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori

Amrywiadau mewn lefelau CO2, tymheredd a llwch oddi wrth sampl ia Vostok dros 400,000 blwyddyn
Ar gyfer y newid hinsawdd diweddar a achoswyd gan ddyn, gweler: cynhesu byd eang.

Newid ym mhatrymau tywydd y Ddaear yw newid hinsawdd, dros cyfnod hir o amser - o ddegau i filiynau o flynyddoedd. Gall y term "newid hinaswdd" gyfeirio at y newid cyfartalog yn y tywydd o ran yr hinsawdd neu'r math o dywydd e.e. mwy neu lai o dywydd eithafol. Rhai o'r ffactorau sy'n achosi'r newid hwn yw newid yn ymbelydredd yr Haul, prosesau biotig, symudiad o fewn y platiau tectonig ac echdoriadau folcanig. Gall rhai gweithgareddau dynol hefyd achosi newid yn yr hinsawdd diweddar, a gelwir hyn yn "gynhesu byd eang".

Achosion Naturiol Newid Hinsawdd

Newidiadau Egni Solar

Mae'r faint o egni mae'r haul yn allyrru yn amrywio a geometri'r ddaear yn newid i fod yn pellach neu'n agosach i'r haul. Gall ffactorau yma newid patrymau hinsoddol y byd. Gelwir patrymau geometri'r ddaear yn "Gylchoedd Milankovitch".

Mae'r system hinsawdd yn derbyn bron ei holl egni o'r haul a gall y system hinsawdd hefyd daflu'r egni i'r gofod allanol. Mae cydbwysedd egni sy'n dod i mewn ac allan, a threigl yr egni trwy'r system hinsawdd, yn pennu cyllideb ynni'r Ddaear. Pan fo'r egni sy'n dod i mewn yn fwy na'r egni sy'n mynd allan, mae cyllideb ynni'r ddaear yn gadarnhaol ac mae'r system hinsawdd yn cynhesu. Os bydd mwy o egni'n mynd allan, mae'r gyllideb ynni'n negyddol ac mae'r ddaear yn oeri.

Drifft cyfandirol

O edrych ar y creigiau yng Nghymru a'r DU, mae'n amlwg bod creigiau fel hen dywodfaen coch a mesurau glo wedi ffurfio mewn amgylchiadau trofannol. Gellir egluro hyn trwy derbyn bod drifft cyfandirol wedi digwydd.

Effaith albedo

Prif: albedo

Gallu i arwynebedd adlewyrchu tonnau golau a gwres yw albedo. Mae gan iâ albedo o 80% ac mae gan borfa albedo o 25%. Mae modd dangos felly bod cynydd yn y ddaear sydd wedi ei gorchuddio gan eira yn creu amgylchiadau sy'n ffafrio i fwy o eira ymgasglu.

Gall newidiadau egni solar effeithio ein hinsawdd

Cerryntau môr ac effaith Nino

Mae hinsoddau'r byd yn cael eu heffeithio gan lwybrau cerrynt morol. Mae hinsawdd tymherus gorllewin Ewrop yn dibynnu ar gerryntau cynnes Drifft Gogledd yr Iwerydd. Mae hyn yn digwydd yn gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae effaith El Nino yn dangos beth sy'n digwydd pan mae'r patrwm arferol yn cael ei newid. Mae'r patrymau morol yn y Cefnfor Tawel yn newid tua phob 9 mlynedd. Mae hyn yn effeithio ar dywydd Dwyrain Awstralia a Gorllewin Periw.

Gweithgaredd Folcanig

Mae nifer o echdoriadau folcanig wedi digwydd ers 1980 sydd yn gael effaith ar y hinsawdd. Pan ffrwydrodd Mynydd St. Helens yn 1980, anfonwyd llawer o ludw a sylffed mân i'r atmosffer. Newidiodd hyn albedo'r ddaear gan adlewyrchu golau'r haul. Effaith hyn oedd gostyngiad yn nhymheredd y ddaear gan 0.1 °C. Yn 1991 ffrwydrodd Pinatubo ar ynysoedd y Philipinau, y digwyddiad mwyaf o'i fath ers dechrau'r ganrif. Aeth tua 5-8 kilomedr ciwbig o lwch i'r awyr gan ymestyn hyd at 24 km uwchben y ddaear. Yn ystod y dyddiau nesaf, gwasgarodd y lludw o amgylch y blaned gyfan. Gostyngodd tymheredd y byd tua 1 °C am hyd at 5 mlynedd. Credir gwyddonwyr gall echdoriad folcanig achosi oes ia arall.

Achosion Dynol Newid Hinsawdd

Newid llystyfiant

Mae gan goed gwerth economaidd da, yn enwedig mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig. Mae hyn yn eu rhoi nhw dan bygythiad, ac maent yn diflannu'n gyflym.

Mae yna lawer o ddatgoedwigo yn digwydd yn y Goedwig-law Amazonas

Mae coed yn hanfodol, wrth gwrs, gan eu bod yn gymorth i gadw lefelau nwyon (carbon deuocsid ag ocsigen) yn gyson yn yr atmosffer. Mae coed yn ymddwyn fel sinc Carbon deuocsid ac maent yn rhyddhau ocsigen fel sgil gynnyrch. Wrth i ni dorri'r coed yma i lawr rydym yn lleihau'r nifer o adweithiau ffotosynthesis sy'n digwydd ar y ddaear ac felly mae'r tymheredd yn cynyddu.

Ar y llaw arall gall dorri a chymynu coed gael effaith ar gynhesu byd eang. Mae coed yn hanfodol gan eu bod yn gymorth i gadw tymheredd y byd yn gyson. Os oes newid yn nifer a dosbarthiad y coedwigoedd yna bydd tymheredd y byd yn addasu i'r amgylchiadau newydd. Mae gan goed albedo isel ac felly maent yn amsugno mwy o egni'r haul gan gynyddu tymheredd y ddaear. Wrth dorri lawr y coedwigoedd Boreal (ardaloedd oer) yna mae yna fwy o olau yn cael ei adlewyrchu gan yr eira ac felly gostyngir tymheredd y ddaear.

Llygredd

Gelwir yr effaith mae llygredd (CO2 yn bennaf) yn cael ar ein planed yn Effaith tŷ gwydr. Wrth i ni allyrru symiau enfawr o lygredd i'r atmosffer mae'n creu blanced sy'n ynysu ein planed. Wrth i ni wneud hyn mae tymheredd cymedrol y ddaear yn cynyddu yn raddol iawn.

Effeithiau lleol

Ers 1941 mae eira cyntaf ar y Carneddau yn disgyn yn hwyrach a'r eira olaf yn diflannu yn gynt yn ôl data a gasglodd Les Larsen[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Bwletin Llên Natur rhifyn 65[1]