Tyrceg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ab:Аҭырқ бызшәа
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: yi:טערקיש
Llinell 165: Llinell 165:
[[war:Tinurkiya]]
[[war:Tinurkiya]]
[[xal:Түргдин келн]]
[[xal:Түргдин келн]]
[[yi:טערקיש]]
[[yo:Èdè Túrkì]]
[[yo:Èdè Túrkì]]
[[zh:土耳其语]]
[[zh:土耳其语]]

Fersiwn yn ôl 10:50, 27 Chwefror 2011

Tyrceg (Türkçe)
Siaredir yn: Twrci, Cyprus, Bwlgaria, Gwlad Groeg, Iran, Macedonia, Moldofa, Syria, Irac, Azerbaijan a mewnfudwyr yn yr Almaen a gwledydd eraill.
Parth: de-ddwyrain Ewrop, y Dwyrain Canol
Cyfanswm o siaradwyr: 60 miliwn fel iaith gyntaf
75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith
Safle yn ôl nifer siaradwyr: 19-21
Achrestr ieithyddol: Altaidd (dadleuol)

 Tyrcaidd
  Deheuol (Oghuz)
   Tyrceg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Twrci, Cyprus, Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus, Bwlgaria (iaith genedlaethol), Macedonia (iaith fwrdeistrefol)
Rheolir gan: Türk Dil Kurumu (Cymdeithas yr Iaith Dyrceg)
Codau iaith
ISO 639-1 tr
ISO 639-2 tur (ota - Tyrceg Otomanaidd)
ISO 639-3 tur (ota - Tyrceg Otomanaidd
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Siaredir Tyrceg (hefyd: Twrceg) yn Nhwrci a rhai gwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae'r iaith yn perthyn i gangen ddeheuol (Orghuz) o deulu'r ieithoedd Tyrcaidd, sydd yn ei dro yn gangen o'r ieithoedd Altaidd (sylwer bod anghytundeb ymhlith ieithyddion am berthynas Tyrceg â theuluoedd ieithyddol eraill).

Daeth yr iaith i'w diriogaeth bresennol yn Asia Leiaf, y Balcanau a'r Dwyrain Canol yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif gyda goresgyniad y llwythau Tyrcaidd a fudodd o Ganolbarth Asia. Hyd at ddechrau'r 20fed ganrif ysgrifennid Tyrceg yn yr ysgrifen Arabeg, ond yn 1929 fe'i newidiwyd ar orchymyn Mustafa Kemal Atatürk ac heddiw mae'n defnyddio gwyddor Rufeinig ac mae ei gramadeg wedi'i symleiddio a'i rheoleiddio'n sylweddol.

Arwydd fordd yn Istanbwl 2006.

Yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 762,516 o bobl yn siarad Tyrceg fel mamiaith ym Mwlgaria (9.6% o'r boblogaeth). Mae mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Tyrceg yn ardaloedd Kardzhali (yn ne Bwlgaria) a Razgrad (yn y gogledd-ddwyrain). Tyrceg yw iaith y mwyafrif yn nwyrain Cyprus yn ogystal.

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Tyrceg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol