Boddi Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm [[Tryweryn]] i gyflawni dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn [[Llyn Efyrnwy|Efyrnwy]]. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'' (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.</ref>
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm [[Tryweryn]] i gyflawni dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn [[Llyn Efyrnwy|Efyrnwy]]. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'' (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.</ref>


Roedd y mesur yn caniatáu [[gorchymyn prynu gorfodol|prynu'r tir yn orfodol]] a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth [[Henry Brooke]], y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, [[Harold Wilson]], [[Bessie Braddock]] a [[Barbara Castle]]. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd yr Arglwyddes [[Megan Lloyd George]], [[T. I. Ellis]], Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], [[Gwynfor Evans]] a'r aelod seneddol lleol [[Thomas William Jones|T. W. Jones]].
Roedd y mesur yn caniatáu [[gorchymyn prynu gorfodol|prynu'r tir yn orfodol]] a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth [[Henry Brooke]], y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, [[Harold Wilson]], [[Bessie Braddock]] a [[Barbara Castle]]. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y Fonesig [[Megan Lloyd George]], [[T. I. Ellis]], Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], [[Gwynfor Evans]] a'r aelod seneddol lleol [[Thomas William Jones|T. W. Jones]].


Mynegodd [[Plaid Cymru]] eu gwrthwynebiad i'r cynllun, ond ni chafwyd unrhyw weithredu uniongyrchol ganddynt. Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]].
Mynegodd [[Plaid Cymru]] eu gwrthwynebiad i'r cynllun, ond ni chafwyd unrhyw weithredu uniongyrchol ganddynt. Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]].

Fersiwn yn ôl 02:31, 27 Chwefror 2011

Capel Coffa Tryweryn

Pentref yng Ngwynedd, Cymru a gafodd ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl, Lloegr oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.

Hanes y boddi

Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965.

Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm Tryweryn i gyflawni dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn Efyrnwy. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.[1]

Roedd y mesur yn caniatáu prynu'r tir yn orfodol a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth Henry Brooke, y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, Harold Wilson, Bessie Braddock a Barbara Castle. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y Fonesig Megan Lloyd George, T. I. Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Gwynfor Evans a'r aelod seneddol lleol T. W. Jones.

Mynegodd Plaid Cymru eu gwrthwynebiad i'r cynllun, ond ni chafwyd unrhyw weithredu uniongyrchol ganddynt. Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd Emyr Llywelyn, John Albert Jones ac Owain Williams.

Ymosodiad Chwefror 1963

Roedd dechrau 1963 yn gyfnod o dywydd caled o eira a rhew gyda'r ffyrdd yn anodd iawn i'w tramwy. Roedd y gwaith o adeiladu'r argae yn ei anterth. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar y gwaith yn un uchelgeisiol iawn, ond fe newidiodd pethau pan ymunodd Emyr Llywelyn â'r cynllun. Roedd e am i'r weithred fod yn un symbolaidd i'w gweld fel gweithred wlatgarol yn hytrach nag un derfysgol.

Cofio

Slogan ar fur yn atgoffa pobl am foddi Cwm Tryweryn. Mae'r cyngor am ddiogelu'r mur sydd yn "eicon" ond yn dirywio[2]

Canodd y beirdd llawer am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu plith, Dafydd Iwan:

Mae argae ar draws Cwm Tryweryn
Yn gofgolofn i'n llyfdra ni;
Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
I fyny ein rhyddid ni.

I lawer o Gymry gwladgarol daeth boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn symbol o'r bygythiad i barhad yr iaith Gymraeg ei hun fel iaith gymunedol fyw, yn enwedig yn y 1980au wrth i'r nifer o bentrefi Cymraeg eu hiaith fynd yn sylweddol lai diolch i ymfudo i gael gwaith gan Gymry ifainc a mewnfudo gan bobl o'r tu allan i Gymru, gan amlaf yn Saeson di-Gymraeg. Mynegir hyn gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd adnabyddus Tryweryn, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cilmeri a cherddi eraill yn 1991 ond a gyfansoddwyd yn y 1980au. Dyma'r pennill agoriadol:

Nid oes inni le i ddianc,
Nid un Tryweryn ein tranc,
Nid un cwm ond ein cymoedd,
O blwyf i blwyf heb na bloedd
Na ffws y troir yn ffosil
Nid un lle ond ein holl hil.[3]

Cyfarwydd hefyd yw'r cwpled cofiadwy o'r un gerdd,

Fesul tŷ nid fesul ton
Y daw'r môr dros dir Meirion.[4]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. John Davies, Hanes Cymru (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.
  2. Erthygl BBC, sy'n cynnwys hefyd llun o'r mur cyn iddo ddirywio
  3. Gerallt Lloyd Owen, Cilmeri a cherddi eraill (Gwasg Gwynedd, 1991), tud. 48.
  4. Cilmeri, tud. 48.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: