Candelas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 76: | Llinell 76: | ||
| 2013 |
| 2013 |
||
|- |
|- |
||
| ''Bodoli'n Ddistaw''<ref>{{cite news |author= |title=Llanuwchllyn band rock the cinema to launch new album |url=http://www.denbighshirefreepress.co.uk/news/142297/llanuwchllyn-band-rock-the-cinema-to-launch-new-album.aspx |work=Denbighshire Free Press |date=23 |
| ''Bodoli'n Ddistaw''<ref>{{cite news |author= |title=Llanuwchllyn band rock the cinema to launch new album |url=http://www.denbighshirefreepress.co.uk/news/142297/llanuwchllyn-band-rock-the-cinema-to-launch-new-album.aspx |work=Denbighshire Free Press |date=23 Rhagfyr 2014 |accessdate=25 Gorffennaf 2017 }}</ref>{{deadlink|date=Ionawr 2019}} |
||
| 39:56 |
| 39:56 |
||
| ''I Ka Ching'' |
| ''I Ka Ching'' |
Fersiwn yn ôl 00:17, 25 Ionawr 2020
Candelas |
---|
Mae Candelas yn fand Cymreig o Lanuwchllyn, Gwynedd, sy'n chwarae cerddoriaeth roc. Sefydlwyd y band yn 2009 a rhyddhawyd eu record fer gyntaf yn 2011 dan yr enw Kim Y Syniad.[1][2] Roedd y gerddoriaeth ar y record hon wedi ei ysbrydoli gan fandiau fel The Strokes a Kings of Leon ond roedd eu hail record (eu halbwm cyntaf a enwyd ar ôl y band) yn cynnwys cerddoriaeth galetach wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Arctic Monkeys, Queens of the Stone Age a Band of Skulls.
Ers 2013, maent yn ymddangos fel rhan o gynllun BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n datblygu cerddoriaeth fandiau newydd ac annibynnol yng Nghymru.[3]
Enillodd y band 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar am y Gân Orau, Record Hir Orau a'r Band Gorau. Adlewyrchodd hyn lwyddiant y band yn 2013 a'n sicr, roedd yn hwb i ddyfodol y grŵp. Rhyddhawyd eu hail albwm ar yr 8fed o Ragfyr, 2014, o dan yr enw Bodoli'n Ddistaw.
Enillodd y drymiwr Lewis Williams yr offerynnwr gorau yn ngwobrau y Selar 2013 am ei waith gyda Candelas a Sŵnami. Yn 2016 recordiodd y band ei fersiwn o'r gân "Rhedeg i Paris" fel 'anthem hâf' i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.
Aelodau
- Osian Huw Williams (Llais a Gitâr)
- Ifan Jones (Gitâr a Llais Cefndir)
- Gruffydd Edwards (Gitâr a Llais Cefndir)
- Tomos Edwards (Gitâr Fas)
- Lewis Williams (Drymiau)
Disgyddiaeth
Senglau
Teitl | Rhyddhawyd |
---|---|
"Cynt a’n Bellach" | 2014 |
"Dim Cyfrinach" | 2014 |
"Ddoe, Heddiw, a 'Fory" | 2017 |
"Gan Bo Fi'n Gallu" | 2018 |
"O! Mor Effeithiol" | 2018 |
Albymau ac EP
Teitl | Hyd | Label | Rhyddhawd |
---|---|---|---|
Kim Y Syniad (EP) | 19:40 | Cynhyrchiadau Peno | 2011 |
Candelas | 44:33 | Cynhyrchiadau Peno | 2013 |
Bodoli'n Ddistaw[4][dolen marw] | 39:56 | I Ka Ching | 2014 |
Wyt Ti'n Meiddio Dod I Chwarae? | 54:12 | I Ka Ching | 2018 |
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Cerddoriaeth Gymraeg; adalwyd 11 Awst 2014.
- ↑ Gwefan iTunes; adalwyd 11 Awst 2014
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 11 Awst 2014.
- ↑ "Llanuwchllyn band rock the cinema to launch new album". Denbighshire Free Press. 23 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2017.