Seithenyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Roedd '''Seithenyn''' yn arglwydd a gysylltir â Chantre'r Gwaelod, yr ardal ym Mae Ceredigion (mewn rhai fersiynau mae'r lleoliad yn wahanol)... |
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
||
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]] |
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]] |
||
[[en:Seithenyn]] |
Fersiwn yn ôl 18:37, 8 Ionawr 2007
Roedd Seithenyn yn arglwydd a gysylltir â Chantre'r Gwaelod, yr ardal ym Mae Ceredigion (mewn rhai fersiynau mae'r lleoliad yn wahanol) a foddwyd gan y môr yn y 6ed ganrif, yn ôl traddodiad llên gwerin.
Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau Tudno a Gwynhoedl.
Yn y chwedl am Gantre'r Gwaelod mae Seithenyn yn geidwad y llifddorau yn llys Gwyddno Garanhir. Un noson dymhestlog bu gwledda mawr yn y llys ac anghofiodd Seithenyn, oedd yn feddw, i edrych y llifddorau a'u cau rhag y môr. Oherwydd ei esgelusdod boddwyd trigolion Cantre'r Gwaelod i gyd, namyn y brenin ei hun.
Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd Boddi Maes Gwyddneu yn Llyfr Du Caerfyrddin. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchmynu i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Ar ddiwedd y testun ceir un o Englynion y Beddau (orgraff ddiweddar):
- Bedd Seithenyn, synhwyr wan,
- Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr;
- Mawrhyddig o gynran.
Darllen pellach
- A.O.H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982)
- F.J. North, Sunken Cities (Caerdydd, 1957)