Ankara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ab:Анкара
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: fj:Ankara
Llinell 58: Llinell 58:
[[fa:آنکارا]]
[[fa:آنکارا]]
[[fi:Ankara]]
[[fi:Ankara]]
[[fj:Ankara]]
[[fo:Ankara]]
[[fo:Ankara]]
[[fr:Ankara]]
[[fr:Ankara]]

Fersiwn yn ôl 15:32, 20 Chwefror 2011

Golygfa o Ankara o'r Gerddi Botanegol

Prifddinas Twrci a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno yw Ankara (hefyd: Ancara; hen enwau Angora ac Ancyra), sy'n brifddinas Talaith Ankara yn ogystal. Ym 2007 roedd tua 4,455,453 o bobl yn byw yn y ddinas. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf yr wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am ei geifr blew hir ynghyd â'r gwlân arbennig a geir ohonynt, sef gwlân Angora.

Cafodd y ddinas ei chodi yng nghanol ucheldir Anatolia ac mae'n groesffordd cludiant bwysig iawn i ffyrdd a'r rheilffyrdd fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent a Phrifysgol Ankara ei hun. Mae Llyfrgell Genedlaethol Twrci a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.

Ers y dewiswyd hi fel prifddinas Twrci gan Kemal Atatürk yn lle Istanbul, mae'r ddinas wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys hen ardal o'r enw Ulus ynghyd ag ardal newydd o'r enw Yenisehir. Mae adeiladau Rhufeinig, Bysantaidd ac Otomanaidd yn y strydoedd cul yn yr hen chwarter, a cheir gwestai mawr, theatrau, canolfannau siopio ac ati yn yr ardal newydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci a swyddfeydd y llywodraeth, ynghyd â llysgenhedaethau gwledydd tramor i'w cael yn yr ardal newydd hefyd.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Palas Ankara
  • Çankaya Köşkü (palas Arlywydd Twrci)
  • Mosg Kocatepe
  • Tŵr Atakule
  • Tŷ Opera

Enwogion

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.