Cosofo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KamikazeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: so:Kosofo
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: gag:Kosovo
Llinell 67: Llinell 67:
[[fy:Kosovo]]
[[fy:Kosovo]]
[[ga:An Chosaiv]]
[[ga:An Chosaiv]]
[[gag:Kosova]]
[[gag:Kosovo]]
[[gan:科索沃]]
[[gan:科索沃]]
[[gl:Kosovo - Kosovë]]
[[gl:Kosovo - Kosovë]]

Fersiwn yn ôl 03:00, 20 Chwefror 2011

Lleoliad Kosovo yn ne-orllewin Serbia

Gwlad yn y Balcanau yn ne-ddwyrain Ewrop yw Kosovo (Albaneg Kosovë/Kosova, Serbeg Косово и Метохија / Kosovo i Metohija) (hefyd Cosofo[1]). Hyd 17 Chwefror 2008 bu'n dalaith yn ne Serbia ac, fel Serbia ei hun, roedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia. Ar ôl gwrthdaro chwerw rhwng Serbiaid ac Albaniaid yn y 1990au a achoswyd gan densiynau ethnig, mae'r dalaith yn cael ei gweinyddu gan y Cenhedloedd Unedig drwy UNMIK (United Nations Interim Administration Mission in Kosovo) ers diwedd Rhyfel Kosovo (1999). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd llywodraeth Albanaidd y dalaith annibyniaeth, ond mae Serbiaid lleol (tua 10% o'r boblogaeth) yn gwrthod hynny.[2]

Y bobl

Mae mwyafrif y boblogaeth, tua 90%, yn Albaniaid. Mae canran yr Albaniaid wedi codi yn sgil Rhyfel Kosovo. Mae mwyafrif yr Albaniaid yn Fwslemiaid, er bod nifer ohonyn nhw'n Babyddion neu aelodau o'r Eglwys Uniongred. Mae'r Serbiaid yn gyffredinol yn Uniongredwyr.

Gwleidyddiaeth a statws gwleidyddol

Yn ôl penderfyniad rhif 1244 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, sefydlwyd gweinyddiaeth dros dro yn Kosovo o dan arweinyddiaeth y Cenhedloedd Unedig i weinyddu'r dalaith, hybu hunanlywodraeth, cynorthwyo penderfyniad am statws dyfodol Kosovo, cynnal cyfraith a threfn, hybu hawliau dynol a helpu ffoaduriaid i ddychwelyd. Pennaeth yr UNMIK yw Cynrychiolydd Arbennig Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Joachim Rücker. Y cyn-benaethiaid yw Bernard Kouchner (Gorffennaf 1999 tan Ionawr 2001), Hans Haekkerup (Chwefror 2001 tan Rhagfyr 2001), Michael Steiner (Ionawr 2002 tan Gorffennaf 2003) Harri Holkeri (Awst 2003 tan Mehefin 2004), a Søren Jessen-Petersen (2004 tan Mehefin 2006).

Yn ôl cytundeb Rambouillet (Mawrth 1999), buasai Kosovo wedi hunanlywodraeth er iddi aros yn rhan o Serbia. Buasai Serbia wedi cytuno i gynnal etholiadau rhydd ac i adeiladu llywodraeth a system cyfreithiol teg. Gwrthododd Serbia llofnodi'r cytundeb, gan arwain at ymosodiadau gan awyrennau NATO yn ystod Mawrth-Mehefin 1999. O 2001 ymlaen, mae UNMIK wedi bod yn trosglwyddo pwerau i sefydliadau hunanlywodraethol Kosovo. Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Cynulliad Kosovo ym mis Tachwedd 2001, a enillwyd gan Gynghrair Democrataidd Kosovo (LDK). Daeth Ibrahim Rugova, oedd wedi arwain gwrthwynebiad i reolaeth Serbia yn ystod y 1990au, yn arlywydd, a Bajram Rexhepi (Plaid Ddemoncrataidd Kosovo) yn brif weinidog.

Yr arlywydd presennol yw Fatmir Sejdiu, arweinydd Cynghrair Democrataidd Kosovo, y blaid fwyaf o hyd. Bu farw ei flaenorydd, Ibrahim Rugova, ym mis Ionawr 2006. Y prif weinidog yw Agim Çeku, cyn-gadlywydd yn y Fyddin dros Ryddhâd Kosovo (KLA). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd yr arlywydd a'r prif weinidog ill dau annibyniaeth lwyr oddiwrth Serbia yn dilyn pleidlais yn senedd Kosovo.

Cyfeiriadau

  1. BBC Cymru'r Byd
  2. Reuters/Yahoo: Kosovo yn datgan annibyniaeth

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.