Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anarchiaeth"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 1 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
Oherwydd natur datganoledig a deinamig yr ideoleg, nid oes un ysgrifennwr gellid seilio syniadau anarchiaeth gymdeithasol arno. Pierre-Joseph Proudoun oedd un o'r ysgrifenwyr cyntaf, Ffrancwr cwestiynodd hawliau eiddo a ddywedodd yn enwog mai "lladrata yw eiddo" a wnaeth dylanwadu'n gryf ar sosialaeth. Yn y 19eg ganrif hefyd ceir y Slafiad Mikhail Bakunin a wnaeth dadlau'n danbaid efo [[Karl Marx]] gan achosi rhwygiad anarchiaeth o'r ''International'' cyntaf. Yn ystod cyfnod [[Vladamir Lenin]] a'r Bolsiefigiaid yn Rwssia fe ysgrifennodd Peter Kropotkin, wnaeth dadlau yn groes i ddehongliadau o ddetholiadau naturiol y pryd yn ei lyfr ''Mutual Aid'' bod cydweithredu (yn hytrach na chystadlu) yn naturiol. Fe hefyd cefnogodd anarchiaeth o safbwynt amaethyddol, yn groes i cysyniadau diwydiannol sy'n prif ffrwd yn ideolegau comiwnyddol. Yn ddiweddarach, enghraifft o ysgrifennwr anarchiaeth gymdeithasol fodern yw [[Noam Chomsky]], ieithydd arbenigol a feirniadai bolisïau tramor yr [[Unol Daleithiau]].
 
Anarchwyr eraill enwog yw'r awdur Rwsiaidd [[Leo TostoyTolstoy]] (anarchydd Cristnogol) a'r awdur a bardd Saesnig [[Oscar Wilde]].
 
===Cysylltiadau â Chymru===
162

golygiad

Llywio