Stranraer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: uk:Странрар |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: fr:Stranraer |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[de:Stranraer]] |
[[de:Stranraer]] |
||
[[en:Stranraer]] |
[[en:Stranraer]] |
||
[[fr:Stranraer]] |
|||
[[ga:An t-Sròn Reamhar]] |
[[ga:An t-Sròn Reamhar]] |
||
[[gd:An t-Sròn Reamhar]] |
[[gd:An t-Sròn Reamhar]] |
Fersiwn yn ôl 16:37, 13 Chwefror 2011
Mae Stranraer (Gaeleg: An t-Sròn Reamhar 'Y Trwyn Llydan') yn dref a phorthladd yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orlewin Yr Alban. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, Gogledd Iwerddon. Poblogaeth: 10,807 (2001).
Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr Loch Ryan. I'r gorllewin mae bryniau isel hir Rinnau Galloway (Rinns of Galloway) yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â Girvan ac Ayr i'r gogledd a Newton Stewart a Dumfries i'r dwyrain. O borthladd Cairnryan, ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i Larne, Gogledd Iwerddon.
Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref Dunragit a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw 'Din Reged', "Caer Reged", a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas Rheged, un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.