Francisco Pizarro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: bn:ফ্রান্সিসকো পিসার্রো |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: et:Francisco Pizarro |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[eo:Francisco Pizarro]] |
[[eo:Francisco Pizarro]] |
||
[[es:Francisco Pizarro]] |
[[es:Francisco Pizarro]] |
||
[[et:Francisco Pizarro]] |
|||
[[eu:Francisco Pizarro]] |
[[eu:Francisco Pizarro]] |
||
[[ext:Francisco Pizarro]] |
[[ext:Francisco Pizarro]] |
Fersiwn yn ôl 08:49, 13 Chwefror 2011
Fforiwr a conquistador Sbaenig oedd Francisco Pizarro González (16 Mawrth 1476 - 26 Gorffennaf 1541). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y gŵr oedd yn gyfrifol am ddinistrio Ymerodraeth yr Inca.
Ganed Francisco Pizarro yn Trujillo (Extremadura). Roedd yn blentyn gordderch i hidalgo o'r enw Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar a merch o'r wlad,Francisca González y Mateos. Magwyd Pizarro yn anllythrennog a bu'n geidwad moch am gyfnod. Aeth i Dde America am y tro cyntaf yn 1502.
Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond llwyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.
Ar 18 Ionawr 1535, sefydlodd Pizarro ddinas Ciudad de los Reyes, a ddaeth yn fuan i'w galw yn Lima.