Dafydd Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Albymau nid caneuon
Llinell 31: Llinell 31:
Recordiwyd ''Bod Yn Rhydd'' (Sain, 1979) yn sgil methiant y [[refferendwm]] ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.
Recordiwyd ''Bod Yn Rhydd'' (Sain, 1979) yn sgil methiant y [[refferendwm]] ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.


Mae ''Ar Dân'' (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, ''Rhwng Hwyl A Thaith'' (Sain, 1982) a ''Yma O Hyd'' (Sain, 1983) gydag [[Ar Log]], sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, 'Yma O Hyd' a 'Cerddwn Ymlaen'.
Mae ''Ar Dân'' (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, ''Rhwng Hwyl A Thaith'' (Sain, 1982) a ''Yma O Hyd'' (Sain, 1983) gydag [[Ar Log]], sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, "[[Yma O Hyd]]" a "Cerddwn Ymlaen".


Roedd ''Gwinllan A Roddwyd'' (Sain, 1986) yn deyrnged i [[Saunders Lewis]], [[D. J. Williams|DJ Williams]] a [[Lewis Valentine]], hanner can mlynedd ers [[Tân yn Llŷn|llosgi Ysgol Fomio]] [[Penyberth]].
Roedd ''Gwinllan A Roddwyd'' (Sain, 1986) yn deyrnged i [[Saunders Lewis]], [[D. J. Williams|DJ Williams]] a [[Lewis Valentine]], hanner can mlynedd ers [[Tân yn Llŷn|llosgi Ysgol Fomio]] [[Penyberth]].

Fersiwn yn ôl 11:24, 13 Ionawr 2020

Dafydd Iwan
GanwydDafydd Iwan Jones Edit this on Wikidata
24 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
TadGerallt Jones Edit this on Wikidata
PlantLlion Iwan Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dafyddiwan.com/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd, Pregethwr cynorthwyol, canwr poblogaidd a chyfansoddwr caneuon, awdur a chyfarwyddwr busnes o Gymru yw Dafydd Iwan (ganwyd Dafydd Iwan Jones, 24 Awst 1943, Brynaman, Sir Gaerfyrddin). Mae'n fab i'r llenor Cymraeg Gerallt Jones ac Elizabeth Jones.[1] Symudodd y teulu i'r Bala pan oedd Dafydd yn ei arddegau. Mae'n cael ei adnabod fel canwr protest ac un o ffigyrau mwyaf amlwg y sin pop a gwerin yng Nghymru hyd heddiw.

Gyrfa

Rhwng 1968 a diwedd y 1970au roedd yn un o arweinyddion carismatig mwyaf y frwydr iaith. Drwy gyfrwng ei ganeuon gwleidyddol, poblogaidd, fe ysbrydolodd gannoedd (ac efallai miloedd) o Gymry. Cafodd ei benodi'n Llywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd Jill Evans ASE ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd.[2]

Mae'n awdur nifer o lyfrau, a chyfansoddwr dros 250 o ganeuon. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Recordiau Sain; ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd; cadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn; aelod o Ymddiriedolaeth Portmeirion; cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan, Bontnewydd; aelod o Bwyllgor Canolfan Gymunedol a Chapel Caeathro ac yn bregethwr lleyg.

Rhwng 1968 a diwedd y 70au bu'n arweinydd brwd a charismatig Cymdeithas yr Iaith. Bu'n gynghorydd sir Gwynedd dros ward Bontnewydd yn ardal Arfon hyd 1 Mai 2008.

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dafydd Iwan yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[3]

Cerddoriaeth

Ar ôl ymddangos ar raglen newyddion Y Dydd ym 1965, arwyddodd i label Welsh Teldisc. Recordiodd nifer o EPs i'r cwmni rhwng 1966-1969, rhai gydag Edward Morris Jones. Erbyn heddiw mae caneuon fel 'Mae'n Wlad I Mi', 'Wrth Feddwl Am Fy Nghymru' a 'Carlo' yn cael ei ystyried yn glasuron.

Ym 1969 sefydlodd Cwmni Recordiau Sain gyda Huw Jones a Brian Morgan Edwards. Rhyddhaodd gyfres o EPs dylanwadol ar Sain, oedd yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, fel 'Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartref', 'Peintio'r Byd Yn Wyrdd' a 'Pam Fod Eira Yn Wyn'. Mae nifer o'r caneuon yma, a rhai o'r cyfnod Welsh Teldisc, ar gael ar Y Dafydd Iwan Cynnar (Sain, 1998).

Ym 1972, ail-recordiodd nifer o'i hen ganeuon Welsh Teldisc yn Stiwdio Rockfield gyda Dave Edmunds, ar gyfer Yma Mae Nghân (Sain, 1972).

Mae rhai yn ystyried Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle (Sain, 1976) fel ei albwm cyntaf a chryfaf, oedd yn cynnwys y ffefryn 'Mae Rhywun Yn Y Carchar'. Mae'r LP ar gael yn ei chyfanrwydd ar Y Dafydd Iwan Cynnar.

Recordiwyd Bod Yn Rhydd (Sain, 1979) yn sgil methiant y refferendwm ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.

Mae Ar Dân (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, Rhwng Hwyl A Thaith (Sain, 1982) a Yma O Hyd (Sain, 1983) gydag Ar Log, sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, "Yma O Hyd" a "Cerddwn Ymlaen".

Roedd Gwinllan A Roddwyd (Sain, 1986) yn deyrnged i Saunders Lewis, DJ Williams a Lewis Valentine, hanner can mlynedd ers llosgi Ysgol Fomio Penyberth.

Roedd rhaid aros pum mlynedd tan Dal i Gredu (Sain, 1991), oedd yn cynnwys 'Yr Anthem Geltaidd' a fabwysiadwyd ym 1990. Roedd Caneuon Gwerin (Sain, 1994) yn brosiect ar y cyd gyda Tudur Morgan a Cân Celt (Sain, 1995) yn gasgliad o ganeuon newydd a rhai oedd wedi eu recordio o'r newydd.

I ddathlu ei ymddeoliad o ganu yn gyhoeddus recordiwyd Yn Fyw Cyfrol 1 a 2 (2001 a 2002) yn fyw gyda’i fand. Yn 2007 rhyddhawyd Man Gwyn (Sain, 2007), sy'n cynnwys teyrnged i'w arwr Gwynfor Evans, 'Daeth Yr Awr, Daeth Y Dyn'.

Rhyddhaodd gasgliad newydd o ganeuon yn 2009, Dos I Ganu. Sbardunwyd yr albwm, a'r gân-deitl, gan y faner a osodwyd ar bont yng Nghaernarfon adeg etholiad Mai 2008, yn dilyn helynt ad-drefnu ysgolion Gwynedd.

Albymau (mewn trefn gronolegol)

Dafydd Iwan yn perfformio.
Perfformio yn Aberdâr
  • Yma Mae 'Nghân (1972)
  • Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle (1976)
  • Carlo a Chaneuon Eraill (1977)
  • 20 o Ganeuon Gorau
  • I'r Gad (1977)
  • Bod yn Rhydd (1979)
  • Ar Dan (Live) (1981)
  • Rhwng Hwyl a Thaith (gydag Ar Log) (1982)
  • Yma o Hyd (gydag Ar Log) (1983)
  • Gwinllan a Roddwyd (1986)
  • Dal I Gredu (1991)
  • Caneuon Gwerin (1994)
  • Cân Celt (1995)
  • Y Caneuon Cynnar (1998)
  • Yn Fyw Cyfrol 1 (2001)
  • Yn Fyw Cyfrol 2 (2002)
  • Goreuon Dafydd Iwan (2006)
  • Man Gwyn (2007)
  • Dos i Ganu (2009)
  • Cana Dy Gân Y Casgliad Cyflawn, 219 trac (2012)
  • Emynau (2015)
  • O’r Galon (2018)

Llyfryddiaeth

  • E. Wyn James (8:5, 2005). Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad. Folk Music Journal, tud. 594-618. URL

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Ieuan Wyn Jones
Llywydd Plaid Cymru
20032010
(ers 2006, y llywydd y blaid yn mwyach yr arweinydd cyffredinol y blaid)
Olynydd:
Ieuan Wyn Jones
(Arweinydd)
Jillian Evans
(Llywydd)