Dubai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: az:Dubay (şəhər)
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ext:Dubai
Llinell 40: Llinell 40:
[[Categori:Yr Emiradau Arabaidd Unedig| ]]
[[Categori:Yr Emiradau Arabaidd Unedig| ]]
{{eginyn Asia}}
{{eginyn Asia}}

[[zh-yue:杜拜]]


[[ace:Dubai]]
[[ace:Dubai]]
Llinell 68: Llinell 66:
[[et:Dubai emiraat]]
[[et:Dubai emiraat]]
[[eu:Dubai]]
[[eu:Dubai]]
[[ext:Dubai]]
[[fa:دبی]]
[[fa:دبی]]
[[fi:Dubai]]
[[fi:Dubai]]
Llinell 138: Llinell 137:
[[zh:杜拜]]
[[zh:杜拜]]
[[zh-min-nan:Dubai]]
[[zh-min-nan:Dubai]]
[[zh-yue:杜拜]]

Fersiwn yn ôl 19:32, 9 Chwefror 2011

Dubai
[[Delwedd:|250px|center]]
Lleoliad o fewn yr Emiradau Arabaidd Unedig
Gwlad Emiradau Arabaidd Unedig
Ardal Dubai
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Constitution of the UAE
Daearyddiaeth
Arwynebedd 1,287.4 km²
Uchder Cyfartaledd Google Earth- 10 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 2,262,000 (Cyfrifiad 2008)
Dwysedd Poblogaeth 408.18 /km2
Metro 2,262,000
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser (UTC+4)
Cod Post Amrywiol
Gwefan http://www.dubai.ae

Mae Dubai (Arabeg: إمارة دبي) yn un o'r saith o Emiradau a dyma yw'r dinas fwyaf poblog yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (EAU). Lleolir y ddinas ar arfordir gogleddol y wlad ar y Penrhyn Arabaidd. Weithiau gelwir Bwrdeistref Dubai yn ddinas Dubai er mwyn medru gwahaniaethu rhyngddo a'r Emiradau.

Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl Abu Dhabi. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r pŵer i veto ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Daw prif incwm y ddinas o dwristiaeth, masnach, gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd. Lleolir twr fwyaf y Byd sef y Burj Khalifa yno. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.

Etymoleg

Yn ystod y 1820au, cyfeiriwyd at Dubai fel Al Wasl gan haneswyr o'r DU. Fodd bynnag, prin yw'r cofnodion sy'n ymwneud â hanes diwylliannol yr EAU neu'r Emiradau cyfansoddiadol yn sgîl traddodiadau llafar yr ardal wrth gofnodi a throsglwyddo chwedlau a straeon. Ceir anghydweld hefyd ynglŷn â tharddiad ieithyddol yr enw 'Dubai', wrth i rai credu ei fod yn tarddu o Bersia tra bod eraill o'r farn mai gwreiddiau Arabaidd sydd i'r enw. Yn ôl Fedel Hanadl, ymchwilydd ar hanes a diwylliant yr EAU, mae'n bosib fod y gair Dubai wedi dod o'r gair Daba (amrywiad o Yadub), sy'n meddwl cripian; gallai'r gair gyfeirio ar lif Cilfach Dubai i mewn tua'r tir, tra bod y bardd a'r ysgolhaig Ahmad Mohammad Obaid yn credu fod tarddiad y gair yr un peth, ond mai ei ystyr yw locustiaid.[1]

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato