Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: gag:Paskellä |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: br:Pask |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
[[be-x-old:Вялікдзень]] |
[[be-x-old:Вялікдзень]] |
||
[[bg:Великден]] |
[[bg:Великден]] |
||
[[br:Pask]] |
|||
[[bs:Uskrs]] |
[[bs:Uskrs]] |
||
[[ca:Pasqua (cristianisme)]] |
[[ca:Pasqua (cristianisme)]] |
Fersiwn yn ôl 15:01, 9 Chwefror 2011
Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y dydd gwener cyn hynny.
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).
Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.
Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.
Traddodiadau'n ymwneud â'r Pasg
Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod y crefyddau Paganaidd. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad rhoi ŵy Pasg yn anrheg i ffrindiau a theulu. Ceir hefyd gysylltiad gyda'r gwningen - sy'n mynd yn ôl mor bell â 1600; gwaith y gwningen ydy cuddio'r wyau Pasg o gwmpas y tŷ. Dywed eraill fod cysylltiad llawer hyn i Gwningen y Pasg, sy'n mynd nôl i'r hen grefydd Geltaidd.
Gweler hefyd
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Link FA Nodyn:Link FA Nodyn:Link FA Nodyn:Link FA