Allectus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ru:Аллект |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sh:Alekto |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[pl:Allectus]] |
[[pl:Allectus]] |
||
[[ru:Аллект]] |
[[ru:Аллект]] |
||
[[sh:Alekto]] |
Fersiwn yn ôl 22:14, 7 Chwefror 2011
Roedd Allectus (bu farw 296) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o 293 hyd ei farwolaeth.
Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.
Ymosododd Constantius arni ym mis Medi 296. Ymddengys i lynges Constantius ei hun gael ei hatal rhag glanio gan y tywydd am gyfnod, ond glaniodd rhan arall o'r llynges dan Asclepiodotus. Gorchfygwyd Allectus mewn brwydr, efallai ger Calleva Atrebatum (Silchester heddiw), a lladdwyd ef.
Ceir cyfeiriad at Allectus yn "hanes" Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae.