Ffeministiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: be-x-old:Фэмінізм |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: rue:Фемінізм |
||
Llinell 84: | Llinell 84: | ||
[[ro:Feminism]] |
[[ro:Feminism]] |
||
[[ru:Феминизм]] |
[[ru:Феминизм]] |
||
[[rue:Фемінізм]] |
|||
[[sah:Феминизм]] |
[[sah:Феминизм]] |
||
[[scn:Fimminismu]] |
[[scn:Fimminismu]] |
Fersiwn yn ôl 16:05, 30 Ionawr 2011
Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i ferched ydy ffeministiaeth. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o hawliau dynol.
Dros y blynyddoedd defnyddiwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol ac ymfflamychol i newid yr ogwydd tuag at gydraddoldeb. Gall y gair "ffeminist" gyfeirio at berson o'r naill ryw neu'r llall, sy'n credu mewn daliadau ffeministiaeth.
Cerrig milltir pwysig yng Nghymru
- 1850 Cyhoeddi cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched (Y Gymraes)
- 1865 Y Cymry ym Mhatagonia yn rhoi'r hawl i ferched i bleidleisio.
- 1871 Rose Crawshay yn cael ei hethol ar gorff cyhoeddus (Bwrdd Ysgolion Merthyr Tydfil).
- 1872 Coleg hyfforddi athrawesau ifanc yn agor yn Abertawe
- 1883 Prifysgol Caerdydd yn caniatau derbyn merched fel myfyrwyr.
- 1885 Y ferch gyntaf i fod yn feddyg yng Nghymru: Frances Hoggan.
- 1886 Sefydlu "Cymdeithas i Hyrwyddo Addysg Merched Cymru"
- 1891 Byddin yr Iachawdwriaeth yn agor lloches i ferched - y cyntaf y tu allan i Lundain - yng Nghaerdydd.
- 1907 Sefydlu Mudiad Suffrage yn Llandudno
- 1912 Irene Steer o Gaerdydd yn ennill Medal Aur yng Ngemau Olympaidd Stockholm, am nofio 400 metr.
- 1915 cangen gyntaf o Sefydliad y Merched yn cael ei sefydlu, a hynny yn Llanfair Pwllgwyngyll.
- 1929 Megan Lloyd George yn cael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ar ran y Rhyddfrydwyr
- 1967 Sefydlu Merched y Wawr gan Zonia Bowen ac eraill.
- Gwersyll merched Greenham Common yn cael ei sefydlu gan 36 o ferched o Gaerdydd.