William Abraham (Mabon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: en:William Abraham (trade unionist); cosmetic changes |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sv:William Abraham |
||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
[[en:William Abraham (trade unionist)]] |
[[en:William Abraham (trade unionist)]] |
||
[[sv:William Abraham]] |
Fersiwn yn ôl 09:54, 28 Ionawr 2011
- Gweler hefyd Mabon.
Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol oedd William Abraham (Mabon) (14 Mehefin 1842 - 14 Mai 1922).
Ganed ef yng Nghwmafan, yn fab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafan, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Yn y 1860au bu am gyfnod yn Chile yn gweithio yn y gweithfeydd copr yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr yn 1870, a bu'n llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd 1903. Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."
Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Ar y cyntaf, roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r Blaid Lafur pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd.
Roedd hefyd yn gefnogwr cryf i'r Eisteddfod, a daeth ei enw barddol "Mabon" yn gysylltiedig a'i enw.
Llyfryddiaeth
- Evans, Eric Wyn, Mabon (William Abraham, 1842-1922): a study in trade union leadership (Caerdydd, 1959).
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Rondda 1885 – 1918 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Orllewin Rhondda 1918 – 1920 |
Olynydd: William John |