Dafydd Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Waun (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
del |
||
Llinell 51: | Llinell 51: | ||
== Albymau (mewn trefn gronolegol) == |
== Albymau (mewn trefn gronolegol) == |
||
[[Delwedd:Dafydd Iwan MB (2).JPG|bawd|250px|Dafydd Iwan yn perfformio.]] |
[[Delwedd:Dafydd Iwan MB (2).JPG|bawd|250px|Dafydd Iwan yn perfformio.]] |
||
[[Delwedd:Dafydd-Iwan by-Aberdare-Blog.jpg|bawd|250px|Perfformio yn Aberdâr]] |
|||
* ''Yma Mae 'Nghân'' (1972) |
* ''Yma Mae 'Nghân'' (1972) |
||
* ''Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle'' (1976) |
* ''Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle'' (1976) |
Fersiwn yn ôl 06:39, 25 Ionawr 2011
Dafydd Iwan | |
---|---|
Galwedigaeth | Gwleidydd, cyfarwyddwr busnes, cerddor |
Gwleidydd, canwr poblogaidd a chyfansoddwr caneuon, awdur a chyfarwyddwr busnes o Gymru yw Dafydd Iwan (ganwyd Dafydd Iwan Jones, 24 Awst 1943, Brynaman, Sir Gaerfyrddin).
Gyrfa
Rhwng 1968 a diwedd y 1970au roedd yn un o arweinyddion carismatig mwyaf y frwydr iaith. Drwy gyfrwng ei ganeuon gwleidyddol, poblogaidd, fe ysbrydolodd gannoedd (ac efallai miloedd) o Gymry. Cafodd ei benodi'n Llywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd Jill Evans ASE ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd: bydd yn cymryd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.[1]
Mae'n awdur nifer o lyfrau, a chyfansoddwr dros 250 o ganeuon. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Recordiau Sain; ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd; cadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn; aelod o Ymddiriedolaeth Portmeirion; cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan, Bontnewydd; aelod o Bwyllgor Canolfan Gymunedol a Chapel Caeathro ac yn bregethwr lleyg.
Rhwng 1968 a diwedd y 70au bu'n arweinydd brwd a charismatig Cymdeithas yr Iaith. Bu'n gynghorydd sir Gwynedd dros ward Bontnewydd yn ardal Arfon hyd 1 Mai 2008.
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dafydd Iwan yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[2]
Albymau (mewn trefn gronolegol)
- Yma Mae 'Nghân (1972)
- Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle (1976)
- Carlo a Chaneuon Eraill (1977)
- 20 o Ganeuon Gorau
- I'r Gad (1977)
- Bod yn Rhydd (1979)
- Ar Dan (Live) (1981)
- Rhwng Hwyl a Thaith (gydag Ar Log) (1982)
- Yma o Hyd (gydag Ar Log) (1983)
- Gwinllan a Roddwyd (1986)
- Dal I Gredu (1991)
- Caneuon Gwerin (1994)
- Cân Celt (1995)
- Y Caneuon Cynnar (1998)
- Yn Fyw Cyfrol 1 (2001)
- Yn Fyw Cyfrol 2 (2002)
- Goreuon Dafydd Iwan (2006)
- Man Gwyn (2007)
- Dos i Ganu (2009)
Llyfryddiaeth
- Llion Iwan (2005). Dafydd Iwan: Bywyd mewn lluniau - A life in pictures. Gwasg Gomer. ISBN 9781843234883
- E. Wyn James (8:5, 2005). Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad. Folk Music Journal, tud. 594-618. URL
Cyfeiriadau
- ↑ "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru" Newyddion BBC Cymru, 08.06.2010.
- ↑ Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360
Dolenni allanol
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Ieuan Wyn Jones |
Llywydd Plaid Cymru 2003 – 2010 (ers 2006, y llywydd y blaid yn mwyach yr arweinydd cyffredinol y blaid) |
Olynydd: Ieuan Wyn Jones (Arweinydd) Jillian Evans (Llywydd) |
|