Islam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: av:Ислам
Loveless (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: rw:Islam
Llinell 182: Llinell 182:
[[roa-rup:Islam]]
[[roa-rup:Islam]]
[[ru:Ислам]]
[[ru:Ислам]]
[[rw:Islam]]
[[sa:इस्लाम]]
[[sa:इस्लाम]]
[[sah:Ислам]]
[[sah:Ислам]]

Fersiwn yn ôl 11:58, 24 Ionawr 2011

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair yw ymostyngiad i ewyllys Duw (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grewyd ganddo. Mae'r gair yn perthyn i'r gair salām sy'n golygu "tangnefedd" a ddaw o'r gwreiddyn s-l-m. Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw." Ceir dwy brif enwad, sef y Sunni a'r Shia. Fel Cristnogaeth ac Iddewiaeth, mae'n un o'r crefyddau Abrahamig.

Sefydlwyd y grefydd ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed (c.570-8 Mehefin, 632). Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India. Erbyn heddiw mae tua 20% o boblogaeth y byd yn byw mewn gwledydd Mwslim, o Foroco yn y gorllewin i Indonesia yn y dwyrain ac o Kazakhstan yn y gogledd i Fali a Swdan yn y de.

Mae Mwslemiaid yn derbyn Ibrahim (Abraham), Musa (Moses), Isa (Iesu Grist) ynghŷd â ffigyrau eraill o'r traddodiad Iddewig-Gristnogol fel proffwydi Duw. Fodd bynnag, credant mai Mohamed yw'r proffwyd mwyaf; yr olaf yn y gadwyn o broffwydi sy'n cychwyn gydag Adda. Credant fod y Coran (Qu'ran) yn air Duw, fel y datguddiwyd ef i Mohamed fesul pennod (sŵra) yn y cyfnod rhwng c. 610 a 632.

Arkân al-Dîn

Mae dilynwyr Islam i fod i ymarddel ac ymarfer Pum Colofn y Ffydd (arkân al-Dîn), a adnebyddir hefyd fel y farâ'idh, y pum egwyddor sanctaidd.

  1. Y shahâda, Cyffesiad y Ffydd, a ymgorfforir yn y datganiad lâ ilâha illâ'llâh wa Muhammad rasulu Allah ("Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Negesydd Duw"). Mae rhywun o grefydd arall sy'n datgan hyn yn ddiffuant o flaen dau dyst Mwslim yn cael ei dderbyn fel Mwslim ei hun.
  2. Y salat (ll. salawât), sef y pum gweddi defodol a adroddir pum gwaith y dydd: ar doriad y wawr (subh), ar ganol dydd (dhuhr), ar ganol y prynhawn (asr), ar fachlud yr haul (maghrib) a dechrau'r nos (ishâ). Dechreuir pob gweddi gyda'r al-Fâtiha, a geir ar ddechrau'r Coran.
  3. Y zakât, sef rhoi elusen yn ôl gallu'r rhoddwr. Tua 5% o incwm y credadun a argymhellir yn y Coran. Yn aml mae'r mosg lleol yn trefnu hyn ac mae'r arian yn mynd at helpu'r tlodion, pobl gydag anabledd, gweddwon a'r amddifad.
  4. Y siyâm, sef ymprydio yn ystod Ramadan, y mis sanctaidd. Yr adeg honno mae bwyta, yfed, smygu, gwisgo peraroglau a chael perthynas rhywiol yn waharddedig o doriad y wawr hyd at fachlud yr haul. Nid oes disgwyl i blant ifanc, yr henoed neu rywun sy'n dioddef afiechyd meddyliol ddilyn y rheolau hyn yn gaeth. Mae gwragedd beichiog, mamau sy'n rhoi llefrith i'w babanod, rhywun sy'n dioddef afiechyd a theithwyr yn gallu gohirio'r siyâm a'i chyflawni yn ddiweddarach. Nid ystyrir fod cymryd ffisig yn torri'r ympryd.
  5. Mynd ar hajj neu bererindod i Fecca. Mae Mwslim yn fod i wneud hynny o leiaf unwaith yn ystod ei fywyd, os ydyw hynny yn ei gallu heb achosi caledi i'w deulu.

Hanes Islam

Pererindod (Hajj) i Fecca

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Sefydlwyd Islam ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed. Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India.

Enwadau

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. Ceir sawl enwad yn Islam:

  • Sunni. Yr enwad fwyaf o lawer gyda dros 80% o Fwslemiaid yn perthyn iddi. Dyma brif ffrwd Islam a ystyrir weithiau yn Islam "uniongred".
  • Shia. Yr enwad ail fwyaf, gyda tua 15% o Fwslemiaid yn perthyn iddi, yn bennaf yn Iran, de Irac a'r Yemen.
    • Drus. Mwslemiaid Shia yw'r Drusiaid, ond mae eu crefydd yn cynnwys elfennau hynafol unigryw hefyd, sy'n tarddu o Gnostigiaeth efallai.

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol