Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
parhau
Llinell 94: Llinell 94:


==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==
*[[Rhestr o gopaon dros 610m (2,000 troedfedd) yn yr Alban|Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000' (y Munros)]]
*[[Rhestr o gopaon dros 610m (2,000 troedfedd) yn yr Alban|Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000']]
*[[Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)]]
*[[Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)]]



Fersiwn yn ôl 06:19, 23 Ionawr 2011

Dyma restrau cydnabyddiedig o gopaon gwledydd Prydain yngŷd â'u henwau a'u diffiniadau. Ceir nifer fawr o restrau neu ddosbarthiadau tebyg sy'n categoreiddio mynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd megis uchder, amlygrwydd y copa neu gategoriau eraill. Mae llawer o gerddwyr yn ceisio cerdded i ben rhestr gyfan o gopaon ac wedi creu cymdeithas o gerddwyr cyffelyb.

Munros

Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y Munros a grewyd yn 1891 gan Syr Hugh Munro, 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 troedfedd yn yr Alban yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy Ben Nevis sy'n 1,344 metr (4,409 tr).

Ar wahân i'r math hwn, ceir nifer o restrau poblogaidd eraill e.e. Corbetts, Wainwrights a'r Marilyns.

Corbetts

Copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r rhain, gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw.

Donalds

Percy Donald a luniodd y rhestr o gopaon dros 2,000 o droedfeddi (609.6 metr). Dim ond yn iseldiroedd yr Alban mae'r copaon hyn. Mae'r fformiwla sy'n eu diffinio'n eitha cymhleth; mae'n rhaid i'r bryncyn o'r math hwn gael amlgygrwydd o 30 m (98 tr). Ceir 140 Donalds: 89 ohonyn nhw'n fryniau a 51 yn gopaon.

Grahams

Bryniau yn yr Alban o rhwng 2,000 a 2,499 tr (609.6 a 761.7 m), gydag amlygrwydd o 150 m (490 tr). Cyhoeddwyd y rhestr hon yn gyntaf gan Alan Dawson mewn llyfr o'r enw The Relative Hills of Britain ond galwyd y copaon ar ôl Fiona Torbet (née Graham) a luniodd restr debyg tua'r un pryd. Dawson sy'n cynnal y rhestr hyd heddiw (2011), rhestr o 224 bryn wedi'u rhannu fel a ganlyn: Yr Ucheldir i'r de o Great Glen 92; yr Ucheldir i'r gogledd o'r Great Glen 84; Canol a de'r Alban 23; Ynys Skye 10; Mull 7; Harris 3; Jura 2; Arran 1; Rum 1 a de Uist 1.

Yn 2004 cyhoeddodd Dawson restr o Gopaon Grahams (Saesneg: Graham Tops) yn yr Alban i lawr i 610 m o ran uchder a 30 m o ran uchder cymharol. Ceir 777 ohonyn nhw.

Murdos

Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl gopaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson.

Uchder
troedfeddi
Uchder
metrau
Amlygrwydd
metrau
yr Alban Cymru a Lloegr
dros 3000 pob un 150+ Marilyn Marilyn
dros 3000 pob un tros 100 HuMP HuMP
dros 3000 914.4+ heb ei ddiffinio Munro,
Munro Top
Furth
dros 3000 914.4+ 30+ Murdo Hewitt
2500-2999 762.0-914.3 152.4+(500tr) Corbett Hewitt
2500-2999 762.0-914.3 30+ Corbett Top Hewitt
2000-2499 609.6-761.9 150+ Graham Hewitt
2000-2499 609.6-761.9 30+ Graham Top Hewitt
2000+ 609.6+ 15+ Nuttall
500-609.5 30+ Dewey

[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) [http://www.biber.fsnet.co.uk/database_notes.html Gwefan "Database of British Hills"