Al Anbar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: fi:Al-Anbār
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: fi:Al-Anbar
Llinell 39: Llinell 39:
[[et:Al-Anbār]]
[[et:Al-Anbār]]
[[fa:استان انبار]]
[[fa:استان انبار]]
[[fi:Al-Anbār]]
[[fi:Al-Anbar]]
[[fr:Al-Anbar (province)]]
[[fr:Al-Anbar (province)]]
[[he:אל-אנבר]]
[[he:אל-אנבר]]

Fersiwn yn ôl 00:49, 23 Ionawr 2011

Talaith Al Anbar

Talaith Al Anbar (Arabeg محافظة الأنبار) yw'r fwyaf yn Irac. Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad, rhwng dyffryn ffrwythlon Afon Euphrates yn y dwyrain a'r ffin â Saudi Arabia, Gwlad Iorddonen a Syria yn y gorllewin. Ei phrifddinas yw Ar Ramadi.

Mae rhan fawr o'r dalaith yn ddiffeithdir sy'n gorwedd yn rhan dwyreiniol Diffeithwch Syria, neu'n dir amethyddol ymylol. Mae mwyafrif helaeth y trigolion yn Fwslemiaid Sunni. Mae enw y dalaith yn air Perseg (انبار ’Anbār) ac yn golygu "emporiwm"; atgof o'r amser pan fu'r ardal yr entrepot pwysicaf ar ffiniau gorllewinol ymerodraeth y Sassaniaid. Cysylltir y diwinydd Sunni enwog, Abu Hanifa al-Anbari, sefydlyd Hanaffiaeth, ysgol athronyddol fwyaf y Sunniaid, â'r rhanbarth.

Cyn 1976 Ramadi oedd enw'r dalaith a chyn 1962 Dulaim oedd ei henw. Mae tua 1,432,717 o bobl yn byw yn y dalaith heddiw.[1]

Mae dinas Fallujah yn Anbar a dyma ganolfan y gwrthwynebiad Ba'athaidd a Sunni i'r goresgyniad o Irac gan yr Unol Daleithiau.

Dinasoedd a threfi


Taleithiau Irac Baner Irac
Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit
  1. http://hhcom1.co.cc/english/anbar.html