Bwncath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: cywiro gwallau using AWB
Ercé (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 29: Llinell 29:
Mae fel rheol yn nythu mewn coeden, ond yn hela dros dir agored. Oherwydd hyn, mae'n hoffi tiriogaeth lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwyta mamaliaid bach yn bennaf, yn cynnwys [[llygoden|llygod]], [[llygoden fawr|llygod mawr]] a [[cwningen|chwningod]], ond mae hefyd yn bwyta anifeiliad wedi marw, cywion adar a phethau eraill.

[[Delwedd:Buteo buteo bwncath.jpg|chwith|bawd|Brân yn herio'r bwncath; Cymru.]]
[[Delwedd:Buteo buteo bwncath.jpg|chwith|bawd|Brân yn herio'r bwncath; Cymru.]]
[[File:Buteo buteo MHNT.ZOO.2010.11.89.1.jpg|thumb|left| ''Buteo buteo'']]

Fel rheol gellir gweld pâr neu ddau bâr o Fwncathod yn troelli yn yr awyr uwchben eu tiriogaeth yn y ganwyn, ac yn tynnu sylw trwy eu galwadau ''piii-âw'', nid anhebyg i gathod. Ambell dro gellir gweld mwy ohont gyda'i gilydd, weithiau hyd at 40 ar y tro.

Fersiwn yn ôl 06:42, 20 Rhagfyr 2019

Bwncath

, , ,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Buteo
Rhywogaeth: B. buteo
Enw deuenwol
Buteo buteo
(Linnaeus, 1758)
Y rhannau o'r byd lle ceir y Bwncath – Glas: gaeafu yn unig; Gwyrdd golau: yn yr haf yn unig; Gwyrdd tywyll: trwy'r flwyddyn.
Gofal: Erthygl am yr aderyn yw hon; ceir band pop Cymraeg (Bwncath), a sefydlwyd yn 2015, o'r un enw.

Mae'r Bwncath (hefyd Boncath a Boda; Lladin: Buteo buteo) yn aderyn ysglyfaethus sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia ac, yn y gaeaf, Affrica. Mae tua 51–57 cm o hyd a rhwng 110 a 130 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, on mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.

Mae fel rheol yn nythu mewn coeden, ond yn hela dros dir agored. Oherwydd hyn, mae'n hoffi tiriogaeth lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwyta mamaliaid bach yn bennaf, yn cynnwys llygod, llygod mawr a chwningod, ond mae hefyd yn bwyta anifeiliad wedi marw, cywion adar a phethau eraill.

Brân yn herio'r bwncath; Cymru.
Buteo buteo

Fel rheol gellir gweld pâr neu ddau bâr o Fwncathod yn troelli yn yr awyr uwchben eu tiriogaeth yn y ganwyn, ac yn tynnu sylw trwy eu galwadau piii-âw, nid anhebyg i gathod. Ambell dro gellir gweld mwy ohont gyda'i gilydd, weithiau hyd at 40 ar y tro.

Yng Nghymru yr oedd y Bwncath wedi mynd yn aderyn prin erbyn dechrau'r 20g, i raddau helaeth oherwydd ei fod yn cael ei ddifa gan giperiaid. Bellach mae amddiffyniad cyfreithiol iddo ac mae wedi dod yn aderyn cyffredin iawn trwy Gymru, ac yn lledaeni i'r dwyrain. Mae'n fwy cyffredin ar dir cymharol isel nag yn y mynyddoedd.

Cyfeiriadau

Safonwyd yr enw Bwncath gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.