Sidi Bouzid, Tunisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: zh:西迪布濟德
→‎Dolen allanol: * {{Commonscat|Sidi Bouzid}}
Llinell 10: Llinell 10:


== Dolen allanol ==
== Dolen allanol ==
* {{Commonscat|Sidi Bouzid}}
* [http://www.commune-sidibouzid.gov.tn/ Gwefan swyddogol y ddinas]
* [http://www.commune-sidibouzid.gov.tn/ Gwefan swyddogol y ddinas]



Fersiwn yn ôl 12:10, 20 Ionawr 2011

Dinas yn Tunisia yw Sidi Bouzid (Arabeg: سيدي بوزيد) neu Sidi Bou Zid, sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yng nghanolbarth y wlad. Gyda phoblogaeth o 39,915 yn 2004, mae'n ganolfan weinyddol a ranbarthol. Masnach amaethyddol yw'r prif ddiwydiant.

Fe'i lleolir 135 km à i'r gorllewin o Sfax ac arfordir y Môr Canoldir a 265 km i'r de o'r brifddinas, Tunis.

Hanes diweddar

Ar 18 Rhagfyr 2010, cafwyd protestiadau mawr yn Sidi Bouzid ar ôl i ddyn ifanc gyda gradd prifysgol a geisiai ennill ei fywiolaeth drwy werthu llysiau o gert llaw ladd ei hun ar ôl i'r heddlu ei atal a chymryd ei gert i ffwrdd am nad oedd ganddo drwydded swyddogol.[1] Mae'r rhanbarth, fel llawer o leoedd yn Tunisia, yn dioddef lefel diweithdra uchel, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn cynnwys nifer gyda chymwysterau coleg a phrifysgol. Ymledodd yr anghydfod i dref gyfagos lle cafwyd gwrthdaro ar raddfa eang rhwng protestwyr a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch. Erbyn diwedd Rhagfyr 2010 roedd y gwrthdystio wedi ymledu i rannau eraill o Tunisia, yn cynnwys Tunis, Sfax, El Kef a sawl dinas a thref arall, ac roedd grwpiau ac unigolion sy'n gwrthwynebu llywodraeth Zine Ben Ali yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel "gwrthryfel poblogaidd" yn erbyn y llywodraeth yn enw democratiaeth, gwaith a hawliau dynol.[2]

Cyfeiriadau

Dolen allanol

  • Comin Wikimedia
    Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: