Bologna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: sh:Bologna
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gd:Bologna
Llinell 55: Llinell 55:
[[fur:Bologne]]
[[fur:Bologne]]
[[ga:Bologna]]
[[ga:Bologna]]
[[gd:Bologna]]
[[gl:Boloña - Bologna]]
[[gl:Boloña - Bologna]]
[[he:בולוניה]]
[[he:בולוניה]]

Fersiwn yn ôl 21:43, 18 Ionawr 2011

Bologna

Dinas yng ngogledd yr Eidal yw Bologna (Lladin Bononia). Hi yw prifddinas talaith Emilia-Romagna, rhwng Afon Po a mynyddoedd yr Appenninau.

Sefydlwyd y ddinas gan yr Etrwsciaid fel Felsina oddeutu'r flwyddyn 534 CC. Yn y bedwaredd ganrif CC, concrwyd y ddinas gan lwyth Celtaidd y Boii, a chafodd yr enw Bononia. Daeth yn colonia Rhufeinig tua 189 CC, ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y Via Aemilia yn 187 CC. Daeth yn municipium yn 88 CC, ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal.

Yn 728, cipiwyd y ddinas gan Liutprand, brenin y Lombardiaid. Yn 1088, sefydlwyd Prifysgol Bologna, Alma Mater Studiorum, y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol.

Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 373,170.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Arca di San Domenico
  • Basilica San Petronio
  • Collegio di Spagna
  • Palazzo d'Accursio
  • Porta Saragozza
  • Stadio Renato Dall'Ara
  • Teatro Comunale di Bologna

Pobl o Fologna