Asilah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: ru:Асила |
|||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[pt:Arzila (Marrocos)]] |
[[pt:Arzila (Marrocos)]] |
||
[[ro:Asilah]] |
[[ro:Asilah]] |
||
[[ru:Асила]] |
|||
[[sv:Assilah]] |
[[sv:Assilah]] |
Fersiwn yn ôl 11:17, 17 Ionawr 2011
Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.
Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10fed ganrif ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.
Dolenni allanol
- (Arabeg) Gwefan swyddogol Asilah (mewn Arabeg ond gyda lluniau)
- Tourism Asilah