Néstor Perlongher: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici365 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
|||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Cyhoeddodd chwe chyfrol o gerddi sy'n nodweddiadol o farddoniaeth newydd-faróc. Mae ei benillion [[erotig]] yn debyg i weithiau'r beirdd Ciwbaidd [[Lezama Lima]] a [[Severo Sarduy]], a'i gerddi diweddarach yn archwilio perlewyg cyfriniol. Enillodd Wobr Boris Vian am ei ail gyfrol o farddoniaeth, ''Alambres'', yn 1987.<ref>Jorge Schwartz, "Perlongher, Néstor" yn ''Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003'', golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 429.</ref> |

||
Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn São Paulo yn addysgu [[anthropoleg]] ym Mhrifysgol Campinas ac yn astudio [[rhywioldeb]]. Cyhoeddodd ddau lyfr ysgolheigaidd yn [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]] yn 1987: ''O negócio do miché'' am buteindra gwrywaidd yn São Paulo, ac ''O que é Aids'' am yr afiechyd a fu'n dioddef ohono. Enillodd Wobr Guggenheim yn 1992 am ei brosiect i lunio ''auto sacramental'' (rhyw fath o [[drama firagl|ddrama firagl]]), gwaith a fu'n anorffenedig ganddo. Bu farw yn São Paulo o [[AIDS]] yn 42 oed. |

== Llyfryddiaeth == |
== Llyfryddiaeth == |
Fersiwn yn ôl 20:51, 10 Rhagfyr 2019
Néstor Perlongher | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1949 Avellaneda |
Bu farw | 26 Tachwedd 1992 o death from AIDS-related complications São Paulo |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin, Brasil |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, cymdeithasegydd, bardd, anthropolegydd, awdur ysgrifau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Q110249942 |
Arddull | barddoniaeth, traethawd, stori fer |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Bardd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg ac anthropolegydd oedd Néstor Perlongher (25 Rhagfyr 1949 – 26 Tachwedd 1992).
Ganwyd yn Avellaneda, yn Nhalaith Buenos Aires. Astudiodd ym Mhrifysgol Campinas yn São Paulo, Brasil.
Cyhoeddodd chwe chyfrol o gerddi sy'n nodweddiadol o farddoniaeth newydd-faróc. Mae ei benillion erotig yn debyg i weithiau'r beirdd Ciwbaidd Lezama Lima a Severo Sarduy, a'i gerddi diweddarach yn archwilio perlewyg cyfriniol. Enillodd Wobr Boris Vian am ei ail gyfrol o farddoniaeth, Alambres, yn 1987.[1]
Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn São Paulo yn addysgu anthropoleg ym Mhrifysgol Campinas ac yn astudio rhywioldeb. Cyhoeddodd ddau lyfr ysgolheigaidd yn Bortiwgaleg yn 1987: O negócio do miché am buteindra gwrywaidd yn São Paulo, ac O que é Aids am yr afiechyd a fu'n dioddef ohono. Enillodd Wobr Guggenheim yn 1992 am ei brosiect i lunio auto sacramental (rhyw fath o ddrama firagl), gwaith a fu'n anorffenedig ganddo. Bu farw yn São Paulo o AIDS yn 42 oed.
Llyfryddiaeth
Barddoniaeth
- Austria-Hungría (1980).
- Alambres (1987).
- Hule (1989).
- Parque Lezama (1990).
- Aguas Aéreas (1992).
- El chorreo de las iluminaciones (1992).
Rhyddiaith
- O negócio do miché: Prostitução viril em São Paulo (1987).
- O que é Aids (1987).
Cyfeiriadau
- ↑ Jorge Schwartz, "Perlongher, Néstor" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 429.
Darllen pellach
- Ben Bollig, Néstor Perlongher: The Poetic Search for an Argentine Marginal Voice (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008).
- N. Rosa, Tratados sobre Néstor Perlongher (Buenos Aires: Editorial Ars, 1997).
- P. Siganevich ac A. Cangi Lúmpenes peregrinaciones: Ensayos sobre Néstor Perlongher (Rosario, yr Ariannin: Beatriz Viterbo, 1996).
- M. Zapata, "Néstor Perlongher: La parodia diluyente", Inti: Revista de literatura hispánica 26–7 (1987), tt. 285–97.