Online Mendelian Inheritance in Man: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cronfa ddata sy'n catalogio pob afiechyd gyda chydran genetaidd ydy'r prosiect '''Online Mendelian Inheritance in Man'''. Pan...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:05, 15 Ionawr 2011

Cronfa ddata sy'n catalogio pob afiechyd gyda chydran genetaidd ydy'r prosiect Online Mendelian Inheritance in Man. Pan yn bosib mae'r cronfa ddata yn cysylltu'r afiechyd gyda'r genyn priodol yn y genom dynol gan ddarparu cyfeiriadau ar gyfer ymchwil pellach ac adnoddau er mwyn dadansoddi'r genyn catalogedig.

Fersiynau

Ceir llyfr yn seiliedig ar y prosiect ac ar hyn o bryd mae yn ei ddeuddegfed argraffiad. Gelwir y fersiwn arlein yn Online Mendelian Inheritance in Man (OMIM).

Y broses grynhoi

Casglwyd a phroseswyd y wybodaeth yn y gronfa ddata hwn o dan arweiniad Dr. Victor A. McKusick ym Johns Hopkins University, a chyda cymorth tîm o olygyddion ac ysgrifennwyr gwyddonol. Caiff erthyglau perthnasol eu hadnabod, trafod ac ysgrifennu yn y cofnodion perthnasol yng nghronfa ddata MIM.