Ar lan y môr (cân): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ériugena (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
YiFeiBot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 langlinks, now provided by Wikidata on d:q4783037 |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[Categori:Caneuon gwerin Cymreig]] |
[[Categori:Caneuon gwerin Cymreig]] |
||
[[Categori:Prosiect Wici Môn]] |
[[Categori:Prosiect Wici Môn]] |
||
[[ga:Ar lan y môr]] |
Fersiwn yn ôl 18:52, 1 Rhagfyr 2019
Cân werin draddodiadol yw Ar lan y môr. Mae ffurfiau amrywiol o'r gân yn bodoli, gan gynnwys rhai lle mae'r mesurydd a phwnc rhai penillion yn awgrymu bod mewnosodiadau o ganeuon eraill yn bresennol. Cân gariad yw'r gân.
Geiriau
Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari.
Ar lan y môr mae cerrig gleision
Ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rinweddau
Ar lan y môr mae nghariad innau.
Llawn yw'r môr o swnd a chegryn
Llawn yw'r wy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blode
Llawn o gariad merch wyf inne.
Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore
Mor hardd yw'r enfys aml ei liwie
Mor hardd yw natur ym Mehefin
Ond harddach fyth yw wyneb Elin