Pendevig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B cats
Llinell 24: Llinell 24:


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}

[[Categori:Bandiau Cymraeg]]
[[Categori:Bandiau gwerin Cymreig]]

Fersiwn yn ôl 16:02, 27 Tachwedd 2019

Grŵp gwerin cyfoes a ffurfiwyd yn 2018 yw Pendevig. Ffurfiwyd y band yn arbennig ar gyfer perfformiadau yn Festival Interceltique de Lorient a phafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018[1]. Rhyddhawyd albwm cyntaf y band, Pendevig I., i gyd-fynd â'r perfformiadau hyn.

Maent yn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol o Gymru â dylanwadau jazz, drum 'n' bass, ffync, pop a roc; yn ogystal â chynnwys barddoniaeth berfformiadol yn nifer o'u caneuon. Mae eu perfformiadau byw yn cynnwys elfennau theatrig megis dawnswyr, acrobateg a thân.

Enillodd Pendevig y wobr am y Band Byw Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019. Roeddent hefyd ar y rhestr fer am y gân draddodiadol orau gyda 'Lliw Gwyn' (fersiwn o 'Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf'), oddi ar eu halbwm cyntaf.

Aelodau

Cyfeiriadau

  1. "Pendevig - An Electric Reaction to Tradition | National Eisteddfod". eisteddfod.wales. Cyrchwyd 2019-11-27.