Jendouba (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be-x-old:Джэндуба (вілает) |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â [[Tunis]] i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw [[Ghardimao]], y dref olaf cyn Algeria, a [[Bou Salem]]. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel [[Aïn Draham]] a thref glan môr [[Tabarka]]. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau. |

== Dinasoedd a threfi == |
|||
* [[Aïn Draham]] |
|||
* [[Beni M'Tir]] |
|||
* [[Bou Salem]] |
|||
* [[Fernana]] |
|||
* [[Ghardimaou]] |
|||
* '''[[Jendouba]]''' (prifddinas) |
|||
* [[Oued Melliz]] |
|||
* [[Tabarka]] |
|||
{{Taleithiau Tunisia}} |
{{Taleithiau Tunisia}} |
||
[[Categori:Talaith Jendouba| ]] |
|||
[[Categori:Taleithiau Tunisia]] |
[[Categori:Taleithiau Tunisia]] |
||
Fersiwn yn ôl 17:41, 8 Ionawr 2011
Mae Jendouba (Arabeg: ولاية جندوبة) yn dalaith yn Tunisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag Algeria gyda rhimyn o arfordir (25km) ar lan Môr y Canoldir yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn afon Medjerda yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y Kroumirie. Jendouba yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).
Bu'r dalaith yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica a dan reolaeth brenhinoedd Numidia o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig Bulla Regia, yn agos i ddinas Jendouba, a Chemtou a Thubernica yn y gogledd.
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â Tunis i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw Ghardimao, y dref olaf cyn Algeria, a Bou Salem. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel Aïn Draham a thref glan môr Tabarka. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.
Dinasoedd a threfi
- Aïn Draham
- Beni M'Tir
- Bou Salem
- Fernana
- Ghardimaou
- Jendouba (prifddinas)
- Oued Melliz
- Tabarka
Taleithiau Tiwnisia | |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan |