Hanes Cymru (llyfr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Teitl italig}} |
|||
{{Pethau | fetchwikidata = ALL | name =Hanes Cymru | Teitl gwreiddiol = |
{{Pethau | fetchwikidata = ALL | name =Hanes Cymru | Teitl gwreiddiol = |
||
| cyfieithydd = | image = Hanes Cymru (llyfr).jpg| image_caption = clawr argraffiad Saesneg 2007| awdur = John Davies |
| cyfieithydd = | image = Hanes Cymru (llyfr).jpg| image_caption = clawr argraffiad Saesneg 2007| awdur = John Davies |
Fersiwn yn ôl 18:39, 22 Tachwedd 2019
Llyfr ar hanes Cymru gan John Davies ar hanes Cymru yw Hanes Cymru a gyhoeddwyd gyntaf gan Allen Lane (Penguin) ym 1990 (clawr caled a chlawr meddal). Fe'i ystyrir yn "gampwaith yr awdur" ac yn waith awdurdodol.[1] Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r llyfr gan yr awdur dan y teitl A History of Wales ym 1993 (ISBN 9780140284751 ) gydag argraffiad newydd yn 1996.[2] Mae'r llyfr yn adrodd hanes Cymru o Oes yr Iâ hyd at yr unfed ganrif ar hugain (yn argraffiad 2007). Un o amcanion John Davies wrth ei ysgrifennu oedd i "[g]ryfhau lle'r Gymraeg fel iaith ysgolheictod hanesyddol".[3]
Ystyrir Hanes Cymru yn llyfr hanes darllenadwy[1] ac yn ôl un adolygydd ei brif rinwedd yw "grym ei naratif, gyda’i ddisgrifiadau bachog a’i osodiadau doniol".[4] Llyfnder sydd i'r arddull wrth ymdrin â ffeithiau ac ystadegau sydd yn ôl Betsan Powys yn "llywio ac yn lliwio yr un pryd".[5]
Yn 2007 cyhoeddwyd diweddariad o Hanes Cymru ac A History of Wales gan Penguin gyda phennod newydd ar Gymru ers 1979.[6] Yn ei ragair i'r argraffiad hwn, ysgrifennodd Davies, "Cyflwynwyd argraffiad cyntaf y gyfrol hon i'r olaf o'r hen genhedlaeth; cyflwynir yr argraffiad hwn i'r cyntaf o'r genhedlaeth newydd."[7]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Davies, John. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin, 2013
- ↑ Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 430 [HANESYDDIAETH].
- ↑ Hanes Cymru. Gwales.com. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
- ↑ Powys, Betsan (2007). Hanes Cymru: 'Dim ond John Davies . . .'. BBC.
- ↑ Hanes Cymru: Ychwanegu at y blociau?. BBC (2007). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
- ↑ Davies, John. Hanes Cymru (Penguin, 2007), t. xi.
Dolen allanol
- Hanes Cymru ar wefan Penguin