Hindŵaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llywenan (sgwrs | cyfraniadau) Mae tudalen eisoes ar gyfer Fisnw o drwy sillafiad Saesneg. Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
Llywenan (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Hindŵaeth''' yw [[crefydd]] gynhenid [[is-gyfandir India]] a phrif grefydd [[India]] ei hun heddiw. Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl. |
'''Hindŵaeth''' yw [[crefydd]] gynhenid [[is-gyfandir India]] a phrif grefydd [[India]] ei hun heddiw. Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl. |
||
Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw [[Brahman]], ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis [[Brahma]] y Creawdwr, [[Shiva|Sifa]] y Dinistriwr neu [[ |
Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw [[Brahman]], ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis [[Brahma]] y Creawdwr, [[Shiva|Sifa]] y Dinistriwr neu [[Vishnu|Fisnw]] y Ceidwad sydd hefyd yn dduw cariad. |
||
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn [[atman]] oddi wrth [[Brahman]], sef yr [[enaid]] tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir carma. |
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn [[atman]] oddi wrth [[Brahman]], sef yr [[enaid]] tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir carma. |
Fersiwn yn ôl 20:34, 21 Tachwedd 2019
Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw. Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl.
Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw Brahman, ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis Brahma y Creawdwr, Sifa y Dinistriwr neu Fisnw y Ceidwad sydd hefyd yn dduw cariad.
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn atman oddi wrth Brahman, sef yr enaid tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir carma.
Os bu bywyd dyn yn ddrwg, mae'n debyg mai fel planhigyn neu anifail y bydd ei enaid yn ailymddangos, a bydd yn rhaid i’r enaid wneud hyn sawl gwaith cyn cael trigo mewn corff dynol eilwaith. Os bu bywyd dyn yn un da a rhinweddol, bydd ei enaid yn symud yn agosach at yr hapusrwydd a ddaw o fod gyda Brahman.
Maent hefyd yn addoli mewn Mandir, sef math o deml.