Meillionen goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: az:Çəmənlik üçyarpaq yoncası |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: pms:Trifolium pratense |
||
Llinell 74: | Llinell 74: | ||
[[no:Rødkløver]] |
[[no:Rødkløver]] |
||
[[pl:Koniczyna łąkowa]] |
[[pl:Koniczyna łąkowa]] |
||
[[pms:Trifolium pratense]] |
|||
[[ru:Клевер луговой]] |
[[ru:Клевер луговой]] |
||
[[simple:Trifolium pratense]] |
[[simple:Trifolium pratense]] |
Fersiwn yn ôl 19:25, 4 Ionawr 2011
Meillionen goch | |
---|---|
Y meillionen goch yn agos | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Magnoliophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Is-deulu: | Faboideae |
Genws: | Trifolium |
Rhywogaeth: | T. pratense |
Enw deuenwol | |
Trifolium pratense L. |
Planhigyn blodeuol bychan ydy'r meillionen goch (Lladin: Trifolium pratense; Saesneg: Red clover) a cheir tua 300 gwahanol fath yn nheulu'r meillion. O gael llonydd, gall dyfu i uchder o 80cm ond mae'r maint yn dibynnu ar ansawdd y pridd. Mae'r dail rhwng 15-30 mm o hyd ac 8-15mm o led, yn wyrdd gyda siap lleuad ar hanner allanol y ddeilen. Mae'r deilgoesyn (petiol) yn 1-4cm o hyd. Pinc tywyll yw lliw'r blodyn pan mae'n ymddangos, 12-15mm o hyd.
Caiff y planhigyn ei ddefnyddio, yn draddodiadol, at nifer o anhwylderau oherwydd ei fod yn cynnwys y canlynol: calsiwm, cromiwm, magnesiwm, niacin, ffosfforws, potasiwm, thiamin a Fitamin C. Dyma'r planhigyn sy'n cynnwys fwyaf o isofflafonau o holl blanhigion y byd; (cemegolyn yw hwn sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n gweithredu fel estrogen - gweler isod.
Rhinweddau meddygol:
Dywedir fod y blodau, o'u sychu, yn medru gwneud te iachaol sy'n dda at ddiffyg traul.[1] Fe'i defnyddir hefyd i wella poenau'r misglwyf ac osteoporosis.[2] Dywed eraill ei fod yn wych am godi fflem pan fo'r claf yn dioddef o beswch cas a hefyd i wella cengroen (psoriasis) ac ecsema .[3]
Dengys ymchwiliadau gwyddonol diweddar fod llawer o isofflafinau megis genistin yn y feillionen goch, sydd â phriodweddau tebyg iawn i estrogen ac mai dyma pam ei fod yn dda at leddfu poenau'r ddarfyddiad (menopaus) a chryfhau'r galon.[4][5]
Mae sawl ymchwil gwyddonol ar droed sy'n edrych i effaith y feillionen fechan ar gleifion sy'n dioddef o gancr.[6]
Cyfeiriadau
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Gwefan Saesneg 'Health Wiser'
- ↑ Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.
- ↑ Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.
- ↑ Gwefan Saesneg Herb Wisdom
- ↑ Yanagihara K, Toge T, Numoto M, et al. Antiproliferative effects of isoflavones on human cancer cell lines established from the gastrointestinal tract. Cancer Res 1993;53:5815-21.