Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan McJeff (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Xxglennxx.
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: ang, az, bm, bn, br, chr, cv, da, es, eu, gv, he, hu, km, ksh, lt, map-bms, pl, ro, sc, tl, tr, uk, yi yn tynnu: simple yn newid: gl, id, scn, sk
Llinell 63: Llinell 63:
[[Categori:Cymorth|Cwestiynau Cyffredin]]
[[Categori:Cymorth|Cwestiynau Cyffredin]]


[[ang:Ƿicipǣdia:Þorpes Ƿiella]]
[[ar:ويكيبيديا:أسئلة متكررة]]
[[ar:ويكيبيديا:أسئلة متكررة]]
[[az:Vikipediya:Tez-tez Soruşulan Suallar]]
[[bg:Уикипедия:Често задавани въпроси]]
[[bg:Уикипедия:Често задавани въпроси]]
[[bm:Aide:FAQ]]
[[bn:উইকিপিডিয়া:প্রায়শ জিজ্ঞাসিত প্রশ্ন]]
[[br:Skoazell:FAG]]
[[ca:Viquipèdia:PMF]]
[[ca:Viquipèdia:PMF]]
[[chr:ᏫᎩᏇᏗᏯ:ᎾᎥ ᏄᎾᏓᎸ ᎾᎿᎢ]]
[[cs:Wikipedie:Často kladené otázky]]
[[cs:Wikipedie:Často kladené otázky]]
[[csb:Wiki:FAQ]]
[[csb:Wiki:FAQ]]
[[cv:Broken/Канашлу]]
[[da:Hjælp:OSS]]
[[de:Wikipedia:Fragen zur Wikipedia]]
[[de:Wikipedia:Fragen zur Wikipedia]]
[[el:Βικιπαίδεια:Συχνές Ερωτήσεις]]
[[el:Βικιπαίδεια:Συχνές Ερωτήσεις]]
[[en:Wikipedia:FAQ]]
[[en:Wikipedia:FAQ]]
[[eo:Vikipedio:Oftaj demandoj]]
[[eo:Vikipedio:Oftaj demandoj]]
[[es:Ayuda:Preguntas frecuentes]]
[[et:Vikipeedia:KKK]]
[[et:Vikipeedia:KKK]]
[[eu:Laguntza:Maiz egindako galderak]]
[[fa:ویکی‌پدیا:پرسش‌های رایج]]
[[fa:ویکی‌پدیا:پرسش‌های رایج]]
[[fo:Wikipedia:OSS]]
[[fo:Wikipedia:OSS]]
Llinell 78: Llinell 88:
[[fur:Jutori:Domandis e rispuestis]]
[[fur:Jutori:Domandis e rispuestis]]
[[ga:Vicipéid:Ceisteanna Coiteanta]]
[[ga:Vicipéid:Ceisteanna Coiteanta]]
[[gl:Wikipedia:FAQ]]
[[gl:Wikipedia:Preguntas máis frecuentes]]
[[gu:વિકિપીડિયા:જાણીતા પ્રશ્નો]]
[[gu:વિકિપીડિયા:જાણીતા પ્રશ્નો]]
[[gv:Wikipedia:Feyshtyn cadjin]]
[[he:ויקיפדיה:שאלות ותשובות/נפוצות]]
[[hi:विकिपीडिया:अक्सर पूछे जाने वाले सवाल]]
[[hi:विकिपीडिया:अक्सर पूछे जाने वाले सवाल]]
[[hu:Wikipédia:Gyakran ismétlődő kérdések]]
[[hy:Wikipedia:ՀՏՀ]]
[[hy:Վիքիփեդիա:ՀՏՀ]]
[[ia:Wikipedia:Questiones frequente]]
[[ia:Wikipedia:Questiones frequente]]
[[id:Wikipedia:Daftar pertanyaan yang sering diajukan]]
[[id:Wikipedia:Tanya jawab]]
[[it:Aiuto:FAQ]]
[[it:Aiuto:FAQ]]
[[ja:Wikipedia:FAQ]]
[[ja:Wikipedia:FAQ]]
[[ka:დახმარება:ხშირი შეკითხვები]]
[[ka:დახმარება:ხშირი შეკითხვები]]
[[km:វិគីភីឌា:FAQ]]
[[ko:위키백과:FAQ]]
[[ko:위키백과:FAQ]]
[[ksh:Wikipedia:FAQ]]
[[la:Vicipaedia:FAQ]]
[[la:Vicipaedia:FAQ]]
[[lb:Wikipedia:FAQ]]
[[lb:Wikipedia:FAQ]]
[[lt:Pagalba:DUK]]
[[map-bms:Dopokan]]
[[mk:Википедија:Често поставувани прашања]]
[[mk:Википедија:Често поставувани прашања]]
[[ms:Wikipedia:FAQ]]
[[ms:Wikipedia:FAQ]]
Llinell 97: Llinell 114:
[[no:Wikipedia:OSS]]
[[no:Wikipedia:OSS]]
[[oc:Wikipèdia:Ajuda:FAQ]]
[[oc:Wikipèdia:Ajuda:FAQ]]
[[pl:Pomoc:FAQ]]
[[pt:Wikipedia:FAQ]]
[[pt:Wikipedia:FAQ]]
[[rmy:Vikipidiya:Butvarutne pućhimata]]
[[rmy:Vikipidiya:Butvarutne pućhimata]]
[[ro:Wikipedia:Întrebări frecvente]]
[[ru:Википедия:ЧАВО]]
[[ru:Википедия:ЧАВО]]
[[sc:Agiudu:Preguntas frecuentes]]
[[scn:Aiutu:FAQ]]
[[simple:Wikipedia:FAQ]]
[[scn:Aiutu:Aiutu]]
[[sk:Wikipédia:FAQ]]
[[sk:Wikipédia:Často kladené otázky]]
[[sl:Wikipedija:Najpogostejša vprašanja]]
[[sl:Wikipedija:Najpogostejša vprašanja]]
[[sr:Википедија:НПП]]
[[sr:Википедија:НПП]]
Llinell 108: Llinell 127:
[[sv:Wikipedia:Vanliga frågor]]
[[sv:Wikipedia:Vanliga frågor]]
[[th:วิกิพีเดีย:คำถามพบบ่อย]]
[[th:วิกิพีเดีย:คำถามพบบ่อย]]
[[tl:Wikipedia:Mga malimit itanong]]
[[tr:Vikipedi:Sıkça Sorulan Sorular]]
[[uk:Вікіпедія:Поширені питання]]
[[vi:Wikipedia:Câu thường hỏi]]
[[vi:Wikipedia:Câu thường hỏi]]
[[wa:Wikipedia:FAQ]]
[[wa:Wikipedia:FAQ]]
[[yi:הילף:מערסטע געפרעגטע פראגעס]]
[[zh:Wikipedia:常见问题解答]]
[[zh:Wikipedia:常见问题解答]]
[[zh-min-nan:Wikipedia:FAQ]]
[[zh-min-nan:Wikipedia:FAQ]]

Fersiwn yn ôl 14:38, 3 Ionawr 2011

Wicipedia:CymorthWicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Cwestiynau Cyffredin

Ar y dudalen hon, gallwch gael atebion i gwestiynau a godir aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r dudalen cymorth.

Beth yw wici?

Mae wici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd a gyd-gysylltwyd. Gall unrhyw un olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolenni i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.

Beth yw Wicipedia?

Mae Wicipedia yn ymgais i greu gwyddoniadur Cymraeg ar y we sydd ar gael i bawb. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg gwreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Cymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth, darllenwch Ynglŷn â Wicipedia.

Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?

Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw, y Sylfaen Wicimedia. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y Wiciadur. Mae'r cyllid yn dod o ymgyrchoedd codi arian blynyddol.

O ran erthyglau'r safle, nid oes hawlfraint ganddynt, o leiaf nid yn y modd arferol. Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rydd GNU, sy'n golygu'r gall unrhyw un gopïo'r deunydd, gyda chydnabyddiaeth. Gweler Wicipedia:Hawlfraint am fwy o fanylion.

Sut alla i gysylltu â'r prosiect?

Mae sawl ffordd i gysylltu â phobl sy'n gysylltiedig â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r Caffi neu'r Ddesg Gyfeirio ac ychwanegwch drywydd yno. Os ydych chi am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch sylw ar ei dudalen sgwrs, ond cofiwch - bydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall, os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosibl fod y defnyddiwr wedi caniatáu ichi anfon e-byst ato; os felly, bydd dolen i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.

Y Sylfaen Wicimedia sy'n rhedeg Wicipedia. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â Meta-Wiki (yn Saesneg), sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.

A ddylwn i gofrestru cyn golygu?

Nid oes rhaid cofrestru, ond mae yna fanteision o wneud felly. Os ydych yn bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael ail-enwi tudalennau nac uwchlwytho lluniau neu gyfryngau eraill. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler Wicipedia:Cofrestru.

Sut allaf fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?

Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl, felly wrth gwrs mae'n bosibl y gall rhywun ychwanegu gwybodaeth anghywir. Ar y llaw arall, mae eraill yn cadw llygad barcud ar erthyglau, gan ddefnyddio'u rhestr wylio, neu'r dudalen Newidiadau diweddar. Felly cywirir yn gyflym gwybodaeth anghywir fel rheol. Mae'r broses hon yn gwella wrth i fwy o bobl ymuno. Fe'ch anogir i roi help llaw trwy gywiro erthyglau a rhoi cyfeiriadau defnyddiol.

Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?

Y ffordd symlaf yw teipio'r pwnc yn y blwch 'chwilio' i'r chwith o'r dudalen, a chlicio ar 'Chwilio'. Gallwch hefyd ddefnyddio Google gan ddilyn y cysylltiad hwn i chwilio drwy Wicipedia yn Gymraeg, ond cofiwch nad yw Google yn cynnwys y diwygiadau diweddaraf.

Gweler Wicipedia:Chwilio am ragor o wybodaeth.

Pam fod ambell i dudalen yn las, a'r gweddill yn wyn?

Oherwydd bod gwahanol fathau o dudalennau i'w cael. Mae'r prif erthyglau ar gefndir gwyn, tra bod tudalennau eraill, fel tudalennau sgwrs, tudalennau arbennig, a thudalennau cymorth (fel hon) yn las, er mwyn dangos nad ydynt yn erthyglau go iawn. I weld mwy am y gwahanol fathau o dudalennau, gweler Wicipedia:Parthau.

Mae 'tudalen ar hap' wastad yn rhoi dyddiad neu flwyddyn i fi!

Peth amser yn ôl, fe ychwanegwyd nifer fawr o erthyglau am ddyddiadau yn awtomatig. Hyd hyn, mae'r rhain yn gyfran fawr o'r holl dudalennau. Fe ddaw erthyglau eraill i'r amlwg wrth i'r nifer o erthyglau godi. Ar hyn o bryd, mae 280,400 erthygl yn y gronfa ddata.

Mae safon yr iaith yn wael yma

Ar hyn o bryd, dysgwyr Cymraeg sy'n cyfrannu fwyaf i'r safle, gydag ychydig o Gymry iaith gyntaf yn cywiro unrhyw wallau sy'n codi. Dim ond trwy gael mwy o siaradwyr rhugl gall safon yr iaith godi, felly peidiwch â rhoi'r gorau iddi!

Os ydych chi'n dod ar draws gwall ieithyddol yn rhyngwyneb y safle, codwch y mater yn y negesfwrdd gweinyddiaeth, fel bod un o'r gweinyddwyr yn gallu cywiro'r neges briodol. Os oes gwall mewn erthygl, ewch ati i'w gywiro (gweler isod).

Rwyf wedi darganfod gwall mewn erthygl - beth wnaf?

Clicio ar Golygu ar frig y dudalen, a chywiro'r gwall. Nid oes ots os gwnewch gamgymeriad - fe fydd eraill wastad yn gallu tacluso ar eich ôl.

Os ydych chi am brofi'ch sgiliau golygu cyn gwneud newidiadau i unrhyw dudalen go iawn, rhowch gynnig ar y Tiwtorial a chwaraewch yn y pwll tywod, lle gallwch arbrofi gyda golygu tudalen.

Sut mae golygu tudalen?

Ar Wicipedia, fe ysgrifennir tudalennau mewn cod arbennig. Peidiwch â phoeni - dyma'r peth hawsaf yn y byd i'w ddysgu (heblaw'r Gymraeg!). Er enghraifft, dynodir cysylltiadau mewnol gyda [[cromfachau sgwâr dwbl|chromfachau sgwâr dwbl]]. Am esboniad manwl o'r cod wici, gwelwch Wicipedia:Sut i olygu tudalen.

Sut mae creu tudalen?

Os ydych chi'n dod ar draws cysylltiad coch, trwy glicio arni byddwch yn cyrraedd sgrîn golygu ar gyfer yr erthygl honno. Ar ôl ichi ysgrifennu digon am y pwnc, bydd cadw'r dudalen yn ei chreu ar y gronfa ddata.

Os ydych chi am greu erthygl heb orfod darganfod cysylltiad coch iddi, teipiwch y teitl i'r blwch chwilio ar y chwith, a chliciwch Ewch. Ar y sgrîn chwilio, bydd cysylltiad coch yn arwain i'r sgrîn golygu ar gyfer y dudalen arfaethedig.

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair

Os ydych chi wedi rhoi'ch cyfeiriad e-bost inni, gallwn ni e-bostio cyfrinair newydd i chi. Cliciwch ar Mewngofnodi yng nghornel dde uchaf y dudalen, teipiwch eich enw defnyddiwr, a chliciwch ar 'Anfoner cyfrinair newydd ataf trwy e-bost'.