Tiger Bay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}

[[Delwedd:Cardiff Docks.jpg|270px|bawd|Tiger Bay: llun o ddociau Caerdydd dros gan mlynedd yn ôl.]]
[[Delwedd:Cardiff Docks.jpg|270px|bawd|Tiger Bay: llun o ddociau Caerdydd dros gan mlynedd yn ôl.]]
:''Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd [[Tiger Bay (gwahaniaethu)]].''
:''Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd [[Tiger Bay (gwahaniaethu)]].''

Fersiwn yn ôl 21:32, 14 Tachwedd 2019

Tiger Bay
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTre-Biwt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.458°N 3.17°W Edit this on Wikidata
Map
Tiger Bay: llun o ddociau Caerdydd dros gan mlynedd yn ôl.
Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd Tiger Bay (gwahaniaethu).

Tiger Bay (Bae Teigr) oedd yr enw hanesyddol am yr ardal o gwmpas porthladd Caerdydd, Cymru, yn cynnwys Tre-Biwt (Butetown). Ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf a phrysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel Bae Caerdydd. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw yn Tiger Bay o hyd (ni fagodd enw Cymraeg).

Hanes

Chwaraeodd datblygiad Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun a dyfodd o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth glo Cymoedd y De i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.

Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daaethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd y llifoedd cryf yn y dŵr rhwng y dociau ac Afon Hafren.

Yn Tiger Bay roedd yna bobl o tua 45 o genhedloedd, yn cynnwys Norwyaid, Somaliaid, Iemeniaid, Sbaenwyr, Eidalwyr, Gwyddelod a phobl o'r Caribî gan roi cymeriad amlddiwyllianol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel Efrog Newydd, ymododdai cymunedau Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.

Y tu allan i'r gymuned, roedd gan Tiger Bay enw am fod yn ardal galed a pheryglus. Un rheswm am hynny oedd y ffaith fod morwyr o bob rhan o'r byd yn aros yno dros dro wrth i'w llongau gael eu llwytho neu eu dadlwytho yn y dociau. O ganlyniad daeth Tiger Bay yn ardal golau coch adnabyddus ac roedd lefel trais a throsedd yn uchel hefyd a'r drwgweithredwyr yn dianc ar eu llongau o afael y gyfraith. Ond i'r bobl leol oedd yn byw yno ac yn ei adnabod roedd Tiger Bay yn lle cyfeillgar gyda chymuned glos.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu trai ar lewyrch y dociau ac aeth Tiger Bay yn ardal ddifreintiedig gyda nifer o adeiladau gwag a dim gwaith ar gael. Dirywiodd yn gyflym. Yn y 1960au dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r tai teras, y tafarnau a'r siopau cornel.[1]

Diwylliant a phobl

Yn y 19g, yng ngweddill Cymru a'r tu hwnt, roedd gan Tiger Bay dipyn o enw fel lle garw. Daeth yr enw "Tiger Bay" yn rhan o fratiaith y morwyr ar draws y byd am unrhyw ardal gyffelyb.[2]

Canodd Meic Stevens am y 'Bay' a dociau Caerdydd. Saethwyd y rhan fwyaf o'r ffim Tiger Bay (1959) yn yr ardal; mae'n serennu John Mills, ei ferch Hayley Mills yn ei rôl actio gyntaf, a Horst Buchholz.

Mae pobl o Tiger Bay yn cynnwys y gantores Shirley Bassey a'r pêl-droediwr rhyngwladol Ryan Giggs.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol