Helsinki: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: gag:Helsinki
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: ur:ہلسنکی
Llinell 157: Llinell 157:
[[ug:Xélsinki]]
[[ug:Xélsinki]]
[[uk:Гельсінкі]]
[[uk:Гельсінкі]]
[[ur:ہلسنکی]]
[[uz:Helsinki]]
[[uz:Helsinki]]
[[vec:Helsinki]]
[[vec:Helsinki]]

Fersiwn yn ôl 11:20, 29 Rhagfyr 2010

Canol Helsinki o'r awyr

Helsinki (yn Ffinneg; "Cymorth – Sain" ynganiad ), neu Helsingfors (yn Swedeg y Ffindir; "Cymorth – Sain" ynganiad ) yw prifddinas Y Ffindir a'i dinas fwyaf. Mae'n borthladd pwysig ar lan ogleddol Gwlff y Ffindir, yn y Môr Baltig. Helsinki yw canolfan weinyddol a masnachol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 564,908 (31 Ionawr, 2007). Mae ardal drefol Helsinki yn cynnwys dinasoedd Espoo, Vantaa a Kauniainen, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Rhanbarth y Brifddinas, gyda phologaeth o tua 998,535. Yn ogystal mae Helsinki Fwyaf yn cynnwys rhai dinasoedd ychwanegol ac mae ganddi boblogaeth o 1,293,093 (2007), sy'n golygu fod un o bob pedwar Ffinn yn byw yn ardal Helsinki Fwyaf.

Mae ganddi nifer o adeiladau mewn gwenithfaen hardd, gan gynnwys y senedd-dŷ a'r eglwys gadeiriol (18fed ganrif). Ceir nifer o adeiladau diweddar yn ogystal a ystyrir yn enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth yr 20fed ganrif. Ceir nifer o lynnoedd yn y dinas ac o'i chwmpas. Sefydlwyd ei phrifysgol yn 1828.

Sefydlwyd Helsinki gan y brenin Swedaidd Gustavus I Vasa yn 1550 pan oedd y wlad ym meddiant Sweden. Roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o bren. Dioddefodd y ddinas dân mawr yn 1808 a ddinistriodd rannau mawr ohoni a chafodd ei hail-adeiladau mewn canlyniad. Dan reolaeth Rwsia ar y Ffindir symudwyd y brifddinas o ddinas Turku i Helsinki yn 1812. Yn yr Ail Ryfel Byd dioddefodd bomio ar raddau sylweddol. Erbyn heddiw mae'n ddinas werdd, lewyrchus.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Eglwys gadeiriol
  • Palas Gwydr
  • Senedd

Pobl o Helsinki

Dinaswedd

Dolen allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am y Ffindir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol