Angharad Tomos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dadwneud fandaliaeth gan 159.86.134.134 |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen awdur |
{{Gwybodlen awdur |
||
| enw = Angharad |
| enw = Angharad Tomos |
||
| delwedd = |
| delwedd =Angharad Tomos.JPG |
||
| maintdelwedd = |
| maintdelwedd = 125px |
||
| pennawd = Angharad Tomos |
| pennawd = Angharad Tomos |
||
| ffugenw = |
| ffugenw = |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
| ethnigrwydd = |
| ethnigrwydd = |
||
| dinasyddiaeth = |
| dinasyddiaeth = |
||
| addysg = [[Ysgol |
| addysg = [[Ysgol Gynradd Bontnewydd]] ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] |
||
| alma_mater = |
| alma_mater = |
||
| cyfnod = 1982– |
| cyfnod = 1982– |
Fersiwn yn ôl 11:49, 14 Tachwedd 2019
Angharad Tomos | |
---|---|
Geni | Angharad Tomos 19 Gorffennaf 1958 Bangor, Gwynedd |
Galwedigaeth | Awdures, ymgyrchydd iaith |
Cenedligrwydd | Cymreig |
Addysg | Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle |
Cyfnod ysgrifennu | 1982– |
Math o lên | Llenyddiaeth plant, llenyddiaeth ffuglen a ffeithiol ar gyfer oedolion |
Gwaith nodedig | Si Hei Lwli, Wele'n Gwawrio, Titrwm |
Priod | Ben Gregory |
Plant | Un bachgen |
Awdures ac ymgyrchydd iaith Cymreig yw Angharad Tomos (ganed 19 Gorffennaf 1958).
Bywgraffiad
Fe'i ganed ym Mangor, Gwynedd ym 1958, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal,
- ym 1986 ac 1994
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.[1]
Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes, Gwynedd.
Ymgyrchu
Mae Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel[2] ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[3].
Llyfryddiaeth
- Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai (Gwasg Gwynedd, 2011)
- Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
- Cnonyn Aflonydd (Gwasg Gwynedd, 2001)
- Hen Fyd Hurt (Y Lolfa, 1992)
- Hiraeth am Yfory (Gwasg Gomer, 2002)
- Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan (Y Lolfa, 2005)
- Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2011)
- 'Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- 'Un Bach Ydwyf' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Ar y Brig - Stori Saceus (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Paid Siglo'r Cwch (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Rhywun i'w Garu (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Y Wal Na Ddaeth i Lawr (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Yn Ffau'r Llewod (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
- Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
- Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
- Eira'r Gaeaf (Y Lolfa, 2010)
- Gwanwyn Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2010)
- Haf Braf (Y Lolfa, 2010)
- Halibalŵ Yr Hydref (Y Lolfa, 2010)
- Parti Cwmwl (Y Lolfa, 1998)
- Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim (Y Lolfa, 2007)
- Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
- Stwnsh Rwdlan (Y Lolfa, 1997)
- Titrwm (Y Lolfa, 1994)
- Wele'n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
- Wrth fy Nagrau i (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
- Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa, 1985)
Gwobrau ac anrhydeddau
- 1982 - Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd am Hen Fyd Hurt
- 1986 - Gwobr Tir na n-Og am Y Llipryn Llwyd (Cyfres Rwdlan)
- 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru am Si Hei Lwli
- 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru am Wele'n Gwawrio
- 1994 - Gwobr Tir na n-Og am Sothach a Sglyfath (Cyfres Cled)
- 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones
Cyfeiriadau
- ↑ Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009. Cyngor Llyfrau Cymru (24 Tachwedd 2009).
- ↑ http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/3734/desc/cofio-hedd-nid-cledd--pererindod-heddwch-gogledd-cymru/
- ↑ http://www.telegraph.co.uk/comment/letters/7963923/If-it-was-right-to-drop-the-bomb-on-Hiroshima-it-cant-be-immoral-to-have-Trident.html
Dolenni allanol
- Angharad Tomos
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
- Enillwyr y Fedal Ryddiaith
- Genedigaethau 1958
- Llenorion Cymraeg
- Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif
- Llenorion Cymreig yr 21ain ganrif
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif
- Llenorion plant Cymraeg
- Nofelwyr Cymraeg
- Pobl o Arfon
- Ymgyrchwyr Cymreig
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle