Y Cylchoedd (gymnasteg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
* [[Barrau anghyflin]] |
* [[Barrau anghyflin]] |
||
* [[Trawst (gymnasteg)|Y Trawst]] |
* [[Trawst (gymnasteg)|Y Trawst]] |
||
* [[Ceffyl pwmel]] |
|||
* [[Llofnaid]] |
* [[Llofnaid]] |
||
* [[Trampolîn]] |
* [[Trampolîn]] |
Fersiwn yn ôl 21:21, 13 Tachwedd 2019
Mae'r cylchoedd gymnasteg (defnyddir Rings yn Saesneg) yn gamp sy'n rhan o ddisgyblaeth dynion mewn gymnasteg artistig. Nid yw menywod yn cystadlu ar y cylchoedd. Mae'n galw ar i'r gymnastwr ymgymryd â sawl gwahanol her gan gadw ei gorff mor unionsyth a heb ddirgrynnu ac mewn hunanddisgyblaeth â phosib.
Hanes
Fel sawl camp arall mewn gymnasteg gyfoes datblygwyd y Cylchoedd gan yr Almaenwr Friedrich Ludwig Jahn [1] ar ddechrau'r 19g [2] Fe'u galwyd yn wreiddiol yn "Rings Rhufeinig" oherwydd eu gwreiddiau yn yr Eidal, sy'n dyddio'n ôl o bosibl dwy fil o flynyddoedd, ond ni wnaeth Jahn, eu cynnwys yn ei raglen i ddechrau.[3] Cyflwynodd Adolf Spieß yr hyn y cyfeiriodd ato fel Ringeschwebel ym 1842 (fe'u disgrifiodd felly yn ei Turnlehre, neu "wers gymnasteg"),[4] a gyflwynwyd yn wreiddiol fel cyfarpar siglo, a elwir y "modrwyau hedfan." Roedd y rhain ar siâp triongl. Yn ddiweddarach, disodlodd modrwyau crwn y fersiwn wreiddiol.
Offer
Bydd galw ar i'r gymnast berfformio rwtîn ar offer 5.75 metr o uchder, sy'n cynnwys dau gylch 18cm o diamedr yn hongian 2.75m o'r ddaear a 50cm ar wahân.
Gwneir y Cylchoedd o bren, sydd wedi eu cysylltu wrth ddarn o ledr sydd yn ei dro ynghlwm wrth geblau dur neu â rhaffau. Er mwyn atal y ceblau rhag cael eu troelli a chlymu yn ystod perfformiad neu wrth i'r gymnast dadgysylltu a llamu oddi arnynt i orffer, mae bwylltidau ("swivels") datgysylltu, fel y'u gelwir, wedi'u gosod rhwng y cylchoedd a'r ceblau. Gellir defnyddio'r cylchoedd ar gyfer gwahanol fathau o symudiadau sylfaenol, megis chwifio’n dawel, chwifio â gwerthiannau, a baglu.
Y Gamp
Bydd y gamp yn cynnwys sawl rhan a elwir yn "elfennau". Gelwir rhain yn "Y Crist" ?? Mae'r enwau yn disgrifio y siap sydd angen dal y corff gyda'r mwyaf posib o sefydlogrwydd. Er enghraifft, mae'r "Haearn" yn galw ar i'r corff fod yn hollol unionsyth yn gyfochrog i'r ddaear ac uwchben lefel y cylchoedd. Er mwyn derbyn sgôr, rhaid i'r elfen bod mewn lle am o leiaf dwy eiliad.
Bydd y rheithgor yn rhoi marc yn seiliedig ar reolaeth o'r elfen, ei her ac choreograffi. Po leiaf o ddirgrynu sydd yn y strwythyr sy'n dal y cylchoedd gorau fydd sgôr y gymnast. Yn ychwnegol at hyn, cyfrifir y naid i orffen, ei sadrwydd wrth lasio wrth gyfrifo'r sgôr terfynnol.
Ystumiau
- Planc am yn ôl
- Planc am ymlaen
- Croes:
- Croes Haearn
- Croes Cyffredin
- Croes Olympaidd
- Croes Azaryan
- croes Gwrthdro
- Croes Malta
- Croes Victoriana
- Croes Pen
- Sedd L; Sedd V
- Haearn
Defnydd Corfforol
Mae'r cylchoedd yn gamp gymnasteg heriol iawn sy'n gwneud defnydd i'r abs, pecs, breithiau yn ogystal â rheolaeth corfforo-feddyliol a balans.
Gweler hefyd
Dolenni
- 'Guide to Gymnastics - Rings' (fideo)
- Hanes y Cylchoedd (Almaeneg a Saesneg)
- Rheolau'r gamp
- Canllawiau'r FIG
- Llawlyfr Termau Gymnasteg (a phynciau eraill) Ysgol Penweddig
Cyfeiriadau
- ↑ https://www.britannica.com/biography/Friedrich-Ludwig-Jahn#tab=active~checked%2Citems~checked&title=Friedrich%20Ludwig%20Jahn%20--%20Britannica%20Online%20Encyclopedia
- ↑ https://athletics.fandom.com/wiki/Gymnastics_rings
- ↑ http://www128.pair.com/r3d4k7/Climbing&Gymnastics2.0.html
- ↑ http://www.gymmedia.com/ghent2001/appa/rings/history_ri.htm