Y Cylchoedd (gymnasteg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 35: Llinell 35:
==Defnydd Corfforol==
==Defnydd Corfforol==
Mae'r cylchoedd yn gamp gymnasteg heriol iawn sy'n gwneud defnydd i'r abs, pecs, breithiau yn ogystal â rheolaeth corfforo-feddyliol a balans.
Mae'r cylchoedd yn gamp gymnasteg heriol iawn sy'n gwneud defnydd i'r abs, pecs, breithiau yn ogystal â rheolaeth corfforo-feddyliol a balans.

==Gweler hefyd==
* [[Bar llorweddol]]
* [[Barrau cyflin]]
* [[Barrau anghyflin]]
* [[Trawst (gymnasteg)|Y Trawst]]
* [[Llofnaid]]
* [[Trampolîn]]
* [[Tumbling (gymnasteg)|Tumbling]]


==Dolenni==
==Dolenni==

Fersiwn yn ôl 21:08, 13 Tachwedd 2019

Gymnast ar y Cylchoedd
Gymnast yn safle 'Sedd L'

Mae'r cylchoedd gymnasteg (defnyddir Rings yn Saesneg) yn gamp sy'n rhan o ddisgyblaeth dynion mewn gymnasteg artistig. Nid yw menywod yn cystadlu ar y cylchoedd. Mae'n galw ar i'r gymnastwr ymgymryd â sawl gwahanol her gan gadw ei gorff mor unionsyth a heb ddirgrynnu ac mewn hunanddisgyblaeth â phosib.

Hanes

Fel sawl camp arall mewn gymnasteg gyfoes datblygwyd y Cylchoedd gan yr Almaenwr Friedrich Ludwig Jahn [1] ar ddechrau'r 19g [2] Fe'u galwyd yn wreiddiol yn "Rings Rhufeinig" oherwydd eu gwreiddiau yn yr Eidal, sy'n dyddio'n ôl o bosibl dwy fil o flynyddoedd, ond ni wnaeth Jahn, eu cynnwys yn ei raglen i ddechrau.[3] Cyflwynodd Adolf Spieß yr hyn y cyfeiriodd ato fel Ringeschwebel ym 1842 (fe'u disgrifiodd felly yn ei Turnlehre, neu "wers gymnasteg"),[4] a gyflwynwyd yn wreiddiol fel cyfarpar siglo, a elwir y "modrwyau hedfan." Roedd y rhain ar siâp triongl. Yn ddiweddarach, disodlodd modrwyau crwn y fersiwn wreiddiol.

Offer

Bydd galw ar i'r gymnast berfformio rwtîn ar offer 5.75 metr o uchder, sy'n cynnwys dau gylch 18cm o diamedr yn hongian 2.75m o'r ddaear a 50cm ar wahân.

Gwneir y Cylchoedd o bren, sydd wedi eu cysylltu wrth ddarn o ledr sydd yn ei dro ynghlwm wrth geblau dur neu â rhaffau. Er mwyn atal y ceblau rhag cael eu troelli a chlymu yn ystod perfformiad neu wrth i'r gymnast dadgysylltu a llamu oddi arnynt i orffer, mae bwylltidau ("swivels") datgysylltu, fel y'u gelwir, wedi'u gosod rhwng y cylchoedd a'r ceblau. Gellir defnyddio'r cylchoedd ar gyfer gwahanol fathau o symudiadau sylfaenol, megis chwifio’n dawel, chwifio â gwerthiannau, a baglu.

Y Gamp

Denis Ablyazin yn cyflawni'r "planc", 2015
Gymnast yn perfformio'r "Groes Haearn"

Bydd y gamp yn cynnwys sawl rhan a elwir yn "elfennau". Gelwir rhain yn "Y Crist" ?? Mae'r enwau yn disgrifio y siap sydd angen dal y corff gyda'r mwyaf posib o sefydlogrwydd. Er enghraifft, mae'r "Haearn" yn galw ar i'r corff fod yn hollol unionsyth yn gyfochrog i'r ddaear ac uwchben lefel y cylchoedd. Er mwyn derbyn sgôr, rhaid i'r elfen bod mewn lle am o leiaf dwy eiliad.

Bydd y rheithgor yn rhoi marc yn seiliedig ar reolaeth o'r elfen, ei her ac choreograffi. Po leiaf o ddirgrynu sydd yn y strwythyr sy'n dal y cylchoedd gorau fydd sgôr y gymnast. Yn ychwnegol at hyn, cyfrifir y naid i orffen, ei sadrwydd wrth lasio wrth gyfrifo'r sgôr terfynnol.

Ystumiau

Planc am yn ôl
Planc am ymlaen
Croes:
Croes Haearn
Croes Cyffredin
Croes Olympaidd
Croes Azaryan
croes Gwrthdro
Croes Malta
Croes Victoriana
Croes Pen
Sedd L; Sedd V
Haearn

Defnydd Corfforol

Mae'r cylchoedd yn gamp gymnasteg heriol iawn sy'n gwneud defnydd i'r abs, pecs, breithiau yn ogystal â rheolaeth corfforo-feddyliol a balans.

Gweler hefyd

Dolenni

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Eginyn gymnasteg