Desiderius Erasmus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: an:Erasmo de Rotterdam
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: lb:Erasmus vu Rotterdam
Llinell 61: Llinell 61:
[[ko:데시데리위스 에라스뮈스]]
[[ko:데시데리위스 에라스뮈스]]
[[la:Desiderius Erasmus Roterodamus]]
[[la:Desiderius Erasmus Roterodamus]]
[[lb:Erasmus vu Rotterdam]]
[[lt:Erazmas Roterdamietis]]
[[lt:Erazmas Roterdamietis]]
[[lv:Roterdamas Erasms]]
[[lv:Roterdamas Erasms]]

Fersiwn yn ôl 22:14, 27 Rhagfyr 2010

Erasmus - portread gan Hans Holbein yr Ieuaf

Yr oedd Desiderius Erasmus (27 Hydref 1466/1469 - 12 Gorffennaf 1536) yn ddyneiddiwr Gristnogol a llenor o Iseldirwr, a aned yn Rotterdam.

Erasmus oedd efallai'r mwyaf dylanwadol o feddylwyr mawr y Dadeni, nid yn unig am ei feddwl treiddgar ond am ei fod wedi astudio a dysgu ledled Ewrop.

Roedd yn ddyn dysgiedig iawn, yn ysgolhaig penigamp, a chyhoeddodd nifer o lyfrau yn ystod ei oes. Yr enwocaf ohonynt yw yr Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb", 1509), a ysgrifennodd er diddanu ei gyfaill Thomas More.

Cyfieithodd y Testament Newydd o'r Roeg, am y tro cyntaf erioed, a dangosodd mai dogfen ail-law oedd y Beibl Fwlgat (cyfieithiad o gyfieithiad).

Gwrthwynebai'n gryf ddogmatiaeth a grym yr offeiriaid ac eto ni wrthododd y ddiwinyddiaeth Gatholig a chadwodd draw o'r ddadl ffyrnig ynghylch dysgeidiaeth Martin Luther.

Llyfryddiaeth