Cystrawen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: az:Sintaksis |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: hif:Syntax |
||
Llinell 61: | Llinell 61: | ||
[[gv:Co-ordrail]] |
[[gv:Co-ordrail]] |
||
[[he:תחביר]] |
[[he:תחביר]] |
||
[[hif:Syntax]] |
|||
[[hr:Sintaksa]] |
[[hr:Sintaksa]] |
||
[[hsb:Syntaksa]] |
[[hsb:Syntaksa]] |
Fersiwn yn ôl 17:08, 23 Rhagfyr 2010
Cystrawen (o'r Lladin construenda[1]) yw'r drefn y rhoddir geiriau mewn cymal neu frawddeg mewn gramadeg. Mewn ieithyddiaeth, gall gyfeirio at reolau cyffredinol ar gyfer pob iaith ddynol, neu at gystrawen iaith benodol (e.e. Cystrawen y Gymraeg). Mewn mathemateg, rhesymeg a gwyddor cyfrifiaduron, mae gan ieithoedd ffurfiol cystrawen arbennig eu hunain.
Hanes
Yn y bedwaredd ganrif cyn Crist yn Gandhara, ysgrifennodd Pāṇini ei Aṣṭādhyāyī, astudiaeth gynhwysfawr o ramadeg y Sanscrit. Dechreuodd yr astudiaeth o ramadeg yn Ewrop gyda Dionysius Thrax (170 ‑ 90 CC).
Ym 1660, cyhoeddodd Antoine Arnauld ei Grammaire générale et raisonnée, llyfr mawr ei ddylanwad. Defnyddiodd dulliau rhesymeg glasurol a'u cymhwyso i iaith. Honnodd fod iaith yn adlewyrchiad uniongyrchol o brosesau meddwl, ac mai'r iaith Ffrangeg oedd y ffordd fwyaf naturiol o fynegi syniadau!
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth tro ar fyd diolch i ganfyddiadau ym maes ieithyddiaeth gymharol. Daeth ieithyddion i sylweddoli maint amrywiaeth ieithoedd y byd am y tro cyntaf, a herwyd y berthynas rhwng cystrawen a rhesymeg. Daeth i'r amlwg nad oedd un ffordd arbennig o fynegi syniad yn fwy naturiol na'r lleill i gyd.
Damcaniaethau Cyfoes
Ar lefel haniaethol, mae sawl ffordd o ymdrin â chystrawen. Yn ôl rhai (Noam Chomsky yn eu plith), astudiaeth o'r wybodaeth ieithyddol sydd wedi'i ymgorffori yn y meddwl dynol yw cystrawen, a'i fod felly yn gangen o Fioleg. Mae Gerald Gazdar ac eraill yn fwy platonistig ac yn honi mai astudiaeth o sustem ffurfiol haniaethol yw cystrawen. Yn olaf, mae rhai ieithyddion fel Joseph Greenberg yn defnyddio cystrawen yn bennaf i ddosbarthu a chymharu ieithoedd.
Dyma'r mathau mwyaf poblogaidd o ddamcaniaethau cystrawennol:
- Gramadeg cynhyrchiol
- Gramadeg categorïaidd
- Gramadeg dibyniadol
- Gramadeg stocastig
- Gramadeg swyddogaethol
Cysylltiadau allanol
Nodiadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, argraffiad cyntaf, tud. 817