Sabino Arana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwybodlen WD |
cats Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
{{DEFAULTSORT:Arana, Sabino}} |
{{DEFAULTSORT:Arana, Sabino}} |
||
[[Categori:Cenedlaetholwyr Basgaidd]] |
|||
[[Categori:Genedigaethau 1865]] |
[[Categori:Genedigaethau 1865]] |
||
[[Categori:Gwleidyddion Basgaidd]] |
|||
[[Categori:Gwleidyddion Sbaenaidd y 19eg ganrif]] |
|||
[[Categori:Llenorion Basgaidd]] |
|||
[[Categori:Llenorion Sbaenaidd y 19eg ganrif]] |
|||
[[Categori:Llenorion Sbaenaidd yn yr iaith Fasgeg]] |
|||
[[Categori:Marwolaethau 1903]] |
[[Categori:Marwolaethau 1903]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Pobl o Bilbo]] |
Fersiwn yn ôl 02:03, 9 Tachwedd 2019
Sabino Arana | |
---|---|
Ganwyd | Sabin Polikarpo Arana Goiri 25 Ionawr 1865 Bilbo |
Bu farw | 25 Tachwedd 1903 Sukarrieta |
Dinasyddiaeth | Gwlad y Basg |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, national revival activist, gweithredydd gwleidyddol |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg |
Mudiad | Euskal Pizkundea |
Tad | Santiago Arana |
Priod | Nikolasa Atxika-Allende |
Perthnasau | Vicente de Arana |
Awdur a gwleidydd Basgaidd oedd Sabino Arana Goiri, hefyd Arana ta Goiri'taŕ Sabin (26 Ionawr 1865 – 25 Tachwedd 1903). Ef oedd sylfaenydd Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV), ac ystyrir mai ef oedd tad cenedlaetholdeb Basgaidd.
Ganed ef yn Abando, Bilbao. Dysgodd yn iaith Fasgeg fel gŵr ieuanc, a gwnaeth lawer o waith i geisio safoni'r orgraff. Bu farw yn Sukarrieta yn 38, o ganlyniad i glwyf Addison, a gafodd tra yng ngharchar. Roedd wedi ei garcharu am yrru neges i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Theodore Roosevelt, yn ei ganmol am gynorthwyo Ciwba i ddod yn annibynnol ar Sbaen.
Dyfyniadau o waith Sabino Arana
“Nid wyf yn mynnu dim byd imi fy hun, yr wyf yn ei mynnu er mwyn Bizkaia; byddwn yn gadael iddyn nhw dorri fy nghorn gwddf â chyllell nid unwaith ond canwaith heb ofyn hyd yn oed cof i’m enw, os gwyddwn mai atgyfodi fy mamwlad a ddilynai.” El Juramento de Larrázabal, 1893
“Elfen anhepgor i genedl y Basgiaid yw’r Euskara, hebddi hi mae ein sefydliadau yn annychmygol.” 1886
“Mae ’na wahaniaeth ethnograffig rhwng bod yn Sbaenwr a bod yn Fasgwr, mae’r hil Fasgaidd yn hollol wahanol i’r hil Sbaenaidd.” Bizkaitarra, nº 11
“Mae’r rhai sy’n adnabod y Jeswitiaid yn gwybod bod cenedlaetholdeb Basgaidd yn gwbl Gatholig.” El Correo Vasco, 1899
“Daeth gyda’r goresgyniad maketo… annuwioldeb, pob math o anfoesoldeb, cabledd, trosedd, rhydd-feddwl, anghrediniaeth, sosialaeth, anarchiaeth… ei waith ef yw hyn i gyd.”