Gwenwynwyn ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.1) (robot yn newid: en:Gwenwynwyn ap Owain
Llinell 23: Llinell 23:
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]


[[en:Gwenwynwyn ab Owain]]
[[en:Gwenwynwyn ap Owain]]

Fersiwn yn ôl 15:36, 21 Rhagfyr 2010

Arfau Gwenwynwyn ab Owain

Roedd Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog (bu farw tua 1216) yn dywysgog Powys Wenwynwyn o 1195 ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd teyrnas Powys yn ddwy, ei henw.

Daeth Gwenwynwyn yn rheolwr Powys Wenwynwyn ar farwolaeth ei dad, Owain Cyfeiliog. Ym mlynyddoedd olaf y 12fed ganrif ceisiodd Gwenwynwyn ei sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, a gosododd warchae ar Gastell Paun yn 1198, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Normanaidd dan Geoffrey Fitz Peter.

Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a Llywelyn Fawr oedd wedi dod yn dywysog Gwynedd. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn 1202, ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin John o Loegr yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch Siwan.

Yn 1208 aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r Mers. Galwyd Gwenwynwyn i Amwythig i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd.

Rhwng 1212 a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym Mathrafal i'r Trallwng. Yn ddiweddarach ffoes i Loegr, lle bu farw tua'r flwyddyn 1216.

Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond meddianwyd Powys Wenwynwyn gan Lywelyn.

Llyfryddiaeth

  • J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
Rhagflaenydd:
Owain Cyfeiliog
Tywysog Powys Wenwynwyn
11951216
Olynydd:
Llywelyn Fawr