Ifor Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
+gweithiau
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10: Llinell 10:


==Gweithiau==
==Gweithiau==
''Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
* ''Breuddwyd Maxen''. Bangor: Jarvis a Foster, 1908.
* ''Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
''Cywyddau Iolo Goch ac eraill, 1350—1450''. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925. (ail argraffiad 1938)
* ''Cywyddau Iolo Goch ac eraill, 1350—1450''. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925. (ail argraffiad 1938).
''Canu Llywarch Hen''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
* ''Canu Llywarch Hen''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
''Canu Aneirin, gyda rhagymadrodd a nodiadau''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938.
* ''Pedeir Keinc y Mabinogi''. Cardydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
* ''Canu Aneirin, gyda rhagymadrodd a nodiadau''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938.
''Lectures on early Welsh poetry''. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
* ''Lectures on early Welsh poetry''. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
''Enwau lleoedd''. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
''Canu Taliesin''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.
* ''Enwau lleoedd''. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
* ''Canu Taliesin''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.


[[en: Ifor Williams]]
[[en: Ifor Williams]]

Fersiwn yn ôl 18:03, 2 Ionawr 2007

Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 18814 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ei ddinas enedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.

Bywgraffiad

Fe'i ganed yn Mhendinas, Tregarth ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.

Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd

Roedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938), Armes Prydain (1955) a [[Canu Taliesin}Chanu Taliesin]] (1960).

Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.

Gweithiau

  • Breuddwyd Maxen. Bangor: Jarvis a Foster, 1908.
  • Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
  • Cywyddau Iolo Goch ac eraill, 1350—1450. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925. (ail argraffiad 1938).
  • Canu Llywarch Hen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
  • Pedeir Keinc y Mabinogi. Cardydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
  • Canu Aneirin, gyda rhagymadrodd a nodiadau. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938.
  • Lectures on early Welsh poetry. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
  • Enwau lleoedd. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
  • Canu Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.