Ifor Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Ysgolhaig Cymraeg oedd '''Syr Ifor Williams''' (16 Ebrill 18814 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugein...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:56, 2 Ionawr 2007

Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 18814 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ei ddinas enedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.

Bywgraffiad

Fe'i ganed yn Mhendinas, Tregarth ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.

Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd

Roedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938), Armes Prydain (1955) a [[Canu Taliesin}Chanu Taliesin]] (1960).

Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.

Gweithiau

Williams, Ifor. 1945. Enwau lleoedd. Lerpwl: Gwasg y Brython.