Barrau cyflin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 39: Llinell 39:


==Dolenni==
==Dolenni==
* [https://www.youtube.com/watch?v=TUo2UmD03es 'Guide to Gymnastics - Parallel Bars' (fideo)]
* [https://www.youtube.com/watch?v=TUo2UmD03es 'Guide to Gymnastics - 'Parallel Bars' (fideo)]
* [http://www.gymmedia.com/ghent2001/appa/bars/history_ba.htm Hanes y Bariau Cyfochrog (Almaeneg a Saesneg)]
* [http://www.gymmedia.com/ghent2001/appa/bars/history_ba.htm Hanes y Barrau Cyfochrog (Almaeneg a Saesneg)]
* [http://www.fig-gymnastics.com/index2.jsp?menu=RULES Rheolau'r gamp]
* [http://www.fig-gymnastics.com/index2.jsp?menu=RULES Rheolau'r gamp]
* [http://www.fig-gymnastics.com/cache/html/4909-116-10001.html Canllawiau'r FIG]
* [http://www.fig-gymnastics.com/cache/html/4909-116-10001.html Canllawiau'r FIG]

Fersiwn yn ôl 12:16, 31 Hydref 2019

Gymnast ar farrau cyfochrog
"Safle-L" ar y barrau cyflun

Mae'r barrau cyfochrog (neu barrau cyflun[1] a hefyd ar lafar, barrau paralel) yn gyfarpar gymnasteg a ddefnyddir mewn gymnasteg artistig. Ceir hefyd camp tebyg iawn, sef y bar llorweddol.

Hanes

Dyfeisiwyd y gamp gan yr Almaenwr, Friedrich Ludwig Jahn ar ddechrau'r 19g. Roedd y barrau cyntaf wedi eu bolltio i'r llawr ac wedi eu cynllunio er mwyn ymarfer ac yswytho'r corff ar gyfer ymarferion 'go iawn' ar y "ceffyl".[2] Yn 1819 disgrifiwyd y bariau cyfochrog cludadwy cyntaf. Ym 1856 yn yr Almaen defnyddiodd Hermann Otto Kluge diwbiau i wneud y bariau cyfochrog a'r bar llorweddol yn addasadwy. Fe'u defnyddiodd yn ei gampfa. Yn Anna Karenina gan Tolstoy, a gyhoeddwyd rhwng 1873-1877, disgrifir eu defnydd ar gyfer ymarfer corff.

Roedd y barrau cyfochrog yn un o'r campau cystadlu yn y Gemau Olympaidd cyntaf yn Athen yn 1896.[3]

Disgrifiad

Mae'n gamp sydd dim ond yn cael eu chystadlu yng nghategori dynion - nid yw menywod yn cystadlu yn y gamp. Mae'r ddau far wedi'u gwahanu heb fawr mwy na'r lled rhwng ysgwyddau ac ar uchder o 1.75m. Camp y gymnastwr yw cyflawni sawl symudiad a chydbwysedd trwy gydio yn y barrau gyda'i ddwylo a symud ei goesau a'i gorff ar y bar a'r llall. Mae'n ymarfer sy'n gofyn am lawer o gryfder, cydbwysedd a chydsymud.

Gwneuthuriad

Mae'n cynnwys dau far neu trawst tennau gwyd ond hyblyg, cyfochrog, pob un yn 350cm o hyd a 195cm o uchder wedi'u gosod ar bedwar stansiwn neu bostyn. Gellir, a chaniateir, addasu'r uchder o fewn ystod 160 i 210cm ar gyfer taldra a chwaeth y gymnastwr. Mae siap y barrau ychydig yn hirgrwn yn hytrach na chylch pur. Arferid gwneud y bariau o bren dros graidd o ddur hyblyg.[4] The vertical members of the supporting framework are adjustable so the height of the bars above the floor and distance between the bars can be set optimally for each gymnast.[5] Bellach, gwneir hwy o hyd at dair gwialen o wydr ffibr. Mae'r deluniad yma yn sicrhau cryfder a gwrthiant digonol rhag torri, ac hydwythedd a "chlustog" priodol i'r wrthsefyll straen y gamp.

O dan y bar fel rhoddir matiau 20 cm o drwch i arbed niwed mawr petai'r gymnast yn cwympo.

Dimensiynau

Cyhoeddir mesuriadau'r ddyfais gan yr Ffederasiwn Rhyngwladol Gymnasteg (Fédération Internationale de Gymnastique FIG) yn yr opuscle Apparatus Norms.

Uchder: 195 cm
Hyd: 350 cm
Pellter rhwng bariau: 42 cm i 52 cm (addasadwy)

Rwtîn

Rhaid i drefn a berfformir ar y barrau cyfochrog gynnwys elfennau amrywiol sy'n dibynnu ar lefel gystadleuol y gymnast. Bydd perfformiad nodweddiadol yn cynnwys sgiliau siglo mewn safle cymorth (ar y dwylo), safle hongian, a safle braich uchaf (yn gorffwys ar y bicep mewnol). Hefyd, mae arferion bar cyfochrog yn aml yn cynnwys sgil cryfder neu ddal statig fel "safle-L" neu "stand llaw". Mae pob trefn yn gorffen gyda disgyniad o naill ai pen y barrau neu ochr y cyfarpar.

Dylai trefn bar gyfochrog gynnwys o leiaf un elfen o'r holl grwpiau elfen: [6]

  • I. Elfennau mewn cefnogaeth neu drwy gefnogaeth
  • II. Elfennau yn cychwyn yn safle uchaf y fraich
  • III. Siglenni hir mewn hongian, ar reiliau 1 neu 2
  • IV. Tan-swing
  • V. Disgyniad

Medr y Gymnastiad

Bydd y gymnastiad yn rhwbio mêl neu dŵr-siwgr ar eu dwylo er mwyn gwella eu gafael ar y barrau rhag llithro.[7]

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. http://termau.cymru/#parallel%20bars
  2. History of bars
  3. https://www.britannica.com/sports/parallel-bars
  4. "Apparatus Norms" (PDF). FIG. t. II/27. Cyrchwyd 2009-10-20.
  5. "Apparatus Norms" (PDF). FIG. t. II/28. Cyrchwyd 2009-10-20.
  6. name=groups>"MAG Code of Points 2009-2012". FIG. t. 100. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-10-01. Cyrchwyd 2009-10-20.
  7. https://www.youtube.com/watch?v=TUo2UmD03es
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Eginyn gymnasteg