Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fy:Rheged |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: ru:Регед |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[nl:Rheged]] |
[[nl:Rheged]] |
||
[[no:Rheged]] |
[[no:Rheged]] |
||
[[ru:Регед]] |
Fersiwn yn ôl 21:47, 9 Rhagfyr 2010
Allwedd: |
Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin Lloegr ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban.
Mae cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd Catraeth.
Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:
- Meirchion Gul
- Cynfarch fab Meirchion
- Urien Rheged neu Urien ap Cynfarch
- Owain ab Urien
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.
Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswy, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad i’r briodas yma.
Heddiw
Rhoddwyd enw’r deyrnas i’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn â Chymry.