Nerys Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '200px |bawd|Nerys Evans, AC Gwleidydd Cymreig yw '''(Elizabeth Gwendoline) Nerys Evans''' (ganed 1980). Mae hi’n ...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:55, 5 Rhagfyr 2010
Gwleidydd Cymreig yw (Elizabeth Gwendoline) Nerys Evans (ganed 1980). Mae hi’n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Plaid Cymru yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cafodd ei dethol fel ymgeisydd ar gyfer sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn etholiad 2011 Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cefndir
Ganed Nerys Evans yn Llangain ger Caerfyrddin. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Manceinion lle derbynniodd radd B.A. mewn Theori Lywodraethol a Gwleidyddol. Aeth yn ei blaen wedyn i dderbyn gradd M.Sc. mewn Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2004 [1].
Gyrfa Wleidyddol
Cychwynodd ei gyrfa fel trefnydd i Blaid Cymru in Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a gweithiodd fel swyddog y wasg dros Blaid Cymru yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin. Cyn cychwyn gwaith fel Swyddog Gwleidyddol Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Dewiswyd Nerys i gynrychioli rhanbarth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007. Ar ddiwrnod yr etholiad cymerodd Nerys sedd Helen Mary Jones, a aeth yn ei blaen i ad-ennill sedd etholaeth Llanelli.
Ym mysg ei diddordebau gwleidyddol, mae Nerys yn weithgar mewn materion gwledig, hawliau gweithwyr, iechyd a rhwystro trais yn y cartref. Hi yw llefarydd Plaid Cymru ar addysg. Mae Nerys yn gadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar gyfer epilepsi a bandllydan yng nghefn gwlad Cymru ac mae hi’n eistedd ar y Pwyllgor Menter a Dysgu. Yn 2008 ennillodd Nerys gystadleuaeth ITV Wales yn y categori ‘Ymgyrchydd y Flwyddyn’ am ei gwaith ymgyrchu yn erbyn trais yn y cartref. Yn ei amser hamdden mae Nerys yn mwynhau cefnogi tim rygbi Sgarlets Llanelli.
Cyfeirnodau
Dolenni Allanol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Helen Mary Jones |
Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru 2007 – presennol |
Olynydd: deiliad |