Bae Bengal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: pnb:خلیج بنگال |
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: ms:Teluk Bengal |
||
Llinell 54: | Llinell 54: | ||
[[mn:Бенгалын булан]] |
[[mn:Бенгалын булан]] |
||
[[mr:बंगालचा उपसागर]] |
[[mr:बंगालचा उपसागर]] |
||
[[ms:Teluk Bengal]] |
|||
[[nl:Golf van Bengalen]] |
[[nl:Golf van Bengalen]] |
||
[[nn:Bengalbukta]] |
[[nn:Bengalbukta]] |
Fersiwn yn ôl 03:53, 4 Rhagfyr 2010
Bae o siâp trionglog yng ngogledd-ddwyrain Cefnfor India sy'n gorwedd rhwng is-gyfandir India (India a Sri Lanka) i'r gorllewin a Burma ac Ynysoedd Andaman a Nicobar (a rhan o dde Gwlad Thai yn ôl rhai diffiniadau) i'r dwyrain yw Bae Bengal. Gellid dweud fod ei derfyniad deheuol yn cael ei ddiffinio gan linell ddychmygol rhwng Penrhyn Dondra yn Sri Lanka a phen gogleddol ynys Sumatra. Fe'i enwir ar ôl rhanbarth Bengal. Fe'i nodweddir gan ddau fonsŵn tymhorol mawr sy'n effeithio ar fordeithio a bywyd yr arfordir, sef y monsŵn gaeaf gogledd-ddwyreinol a'r monsŵn haf de-orllewinol.
Mae pen gogleddol y bae yn fas, yn rhannol am ei fod yn derbyn llawer o ddeunydd afonol a gludir gan Afon Ganga, sy'n llifo i'r bae trwy sawl aber (Aberoedd y Ganga) yn ardal y Sundarban, yng Ngorllewin Bengal (India) a Bangladesh. Pysgota yw'r prif ddiwydiant traddodiadol gan bobl yr arfordir.
Mae gan Fae Bengal arwynebedd o tua 2,172,000 km². Mae sawl afon fawr – Afon Ganga, Afon Brahmaputra, Afon Ayeyarwady, Afon Godavari, Afon Mahanadi, Afon Krishna ac Afon Kaveri – yn llifo i mewn iddo. Mae'r prif borthladdoedd ar ei lannau yn cynnwys Cuddalore, Chennai, Kakinada, Machilipatnam, Vishakapatnam, Paradip, Kolkata, Chittagong, a Yangon.