Gwobr Grammy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: nn:Grammy Award |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: my:ဂရမ်မီဆု |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[mr:ग्रॅमी पुरस्कार]] |
[[mr:ग्रॅमी पुरस्कार]] |
||
[[ms:Anugerah Grammy]] |
[[ms:Anugerah Grammy]] |
||
[[my:ဂရမ်မီဆု]] |
|||
[[nl:Grammy Award]] |
[[nl:Grammy Award]] |
||
[[nn:Grammy Award]] |
[[nn:Grammy Award]] |
Fersiwn yn ôl 01:27, 4 Rhagfyr 2010
Mae Gwobrau'r Grammy (a alwyd yn Wobrau'r Gramaffôn yn wreiddiol)–neu'r Grammys–yn cael eu cyflwyno'n flynyddol yn yr Unol Daleithiau gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau a'r Gwyddorau Recordio am lwyddiannau ysgubol yn y diwydiant recordio. Yn y seremoni gwobrwyo ceir perfformiadau gan artistiaid blaenllaw a darlledir rhai o'r Gwobrau Grammy mwyaf poblogaidd ar y teledu. Ar hyn o bryd, Llywydd yr Academi yw Neil Portnow. Ystyrir derbyn Grammy fel yr anrhydedd uchaf yn y byd cerddorol, a dyma fersiwn cyfatebol y diwydiant i Wobrau'r Academi (yr Oscars) ar gyfer ffilmiau.
Sefydlwyd y gwobrau ym 1958. Yn ystod y 1960au, cyn i'r Grammys gael eu darlledu am y tro cyntaf ar ABC ym 1971, darlledwyd cyfres o raglenni arbennig wedi eu rhag-recordio ar NBC o'r enw The Best on Record.